Efa Gruffudd Jones
Yn ôl Prif Weithredwr Urdd Gobaith Cymru, does dim digon o ddarpariaeth ar gyfer plant a phobol ifanc trwy gyfrwng yr iaith Gymraeg.

“Dw i’n meddwl bod yr Urdd yn gwneud cymaint ag y mae’n gallu gyda’r adnoddau sydd gyda fe,” meddai Efa Gruffudd Jones.

“Dw i ddim yn meddwl bod darpariaeth digonol i blant a phobol ifanc a dyw’r ddarpariaeth ddim yn gyfartal ar draws Cymru.”

Yn ôl Efa Gruffydd Jones, mae’r sefyllfa ariannol yn effeithio ar waith y mudiad yn ddiweddar.

“Mae beth r’yn ni’n gallu cynnig i bobol ifanc yn dibynnu ar y cyllid r’yn ni’n gallu ffeindio i’w ddarparu fe. Ar hyn o bryd dw i’n teimlo mai aros yn yr unfan i ni o ran gallu datblygu.

“Ond ein gobaith ni yw, mewn dwy neu dair blynedd, pan fydd y sefyllfa ariannol yn gwella, byddwn ni mewn sefyllfa gryf a da i ddatblygu ymhellach.”

Darllenwch weddill y stori yng nghylchgrawn Golwg, 2 Mehefin