Mae dyn ifanc o ardal Llanelli yn dweud bod gwasanaeth Cymraeg Lloyds TSB yn warthus, ar ôl derbyn iawndal gan y banc am ei gamarwain.
Roedd Lloyds TSB wedi dweud wrth Lewys Thomas ei bod yn bosib iddo dderbyn datganiad o fanylion ei gyfrif yn Gymraeg, ond daeth i’r amlwg nad oedd hyn yn bosib.
Fe gafodd Lewys Thomas £60 o iawndal gan y banc a llythyr gan Lloyds TSB yn ymddiheuro – ond roedd y llythyr hwnnw yn uniaith Saesneg.
Yn ôl Lewys Thomas ni chafodd yr hawl i ddefnyddio’i famiaith gyda’r banc: “Pan wnes i ffonio lan roedd e’n amlwg bod gan neb syniad be’ i’w wneud,” meddai’r dyn ifanc 17 oed o Gorslas.
“Dim unwaith wnaethon nhw gynnig i fi siarad gyda rhywun yn Gymraeg.”
Darllenwch weddill yr erthygl yng nghylchgrawn Golwg, 2 Mehefin