Shane Williams
Mae llwyddiant tîm pêl-droed Abertawe i gyrraedd Uwch Gynghrair Lloegr yn her i drefnwyr rygbi yng Nghymru, yn ôl un sylwebydd rygbi.

“Rwy’n teimlo gan fod rygbi Cymru wedi bod mor ddifflach ac aflwyddiannus yn ystod y tymor, a phetai un o’r timau pêl-droed yn cyrraedd Uwch Gynghrair y byddai’n broblem i bêl-droed,” meddai Alun Wyn Bevan,

“Bydd nifer o’r gemau ar deledu hefyd ac mae’n bosib y bydd pêl-droed yn cael blaenoriaeth am gyfnod yn ardal Abertawe gan rai sydd fel arfer yn cefnogi rygbi.”

“Rhaid i’r bobol sy’n ymwneud â rygbi werthu eu gêm yn well. Mae angen ehangu apêl rygbi er mwyn cystadlu â phêl-droed.”

“Rhaid edrych ar y rheolau i wneud y gêm yn fwy apelgar a rhaid cael mwy o bobol yno trwy’r clwydi. Mae angen llenwi’r Stadia trwy brisio mwy teg.

“Maen nhw’n llwyddo yn Ffrainc drwy osod pris rhesymol. Os am i deuluoedd fynd i’r gemau mae angen eu gwneud yn werth chweil.”

Darllenwch weddill yr erthygl yng nghylchgrawn Golwg, 2 Mehefin