Maes Eisteddfod yr Urdd Abertawe
Mae un o stondinwyr Eisteddfod yr Urdd Abertawe wedi cymryd mantais o lwyddiant y ddinas ar y cae pêl-droed ddechrau’r wythnos er mwyn gwneud elw mawr.

Dywedodd Owain Young o siop Shwl Di Mwl ei fod crys sy’n dathlu buddugoliaeth yr Elyrch dydd Llun wedi gwerthu fel slecs.

“Mae pethe wedi bod yn ffantastig,” meddai. “Rydw i wedi bod i Wembley ac wedi dod yn ôl fan hyn.

“Rydan ni wedi gwerthu llwyth o grysau-t yn dweud ‘Jacks are going up Abertawe 4 Reading 2’.

“Mae da ni hyd yn oed lun o Brendan Rogers yn dal y crys! Roedd rhyw gwsmer yn y gwesty neithiwr wedi rhoi’r crys iddo – ac fe gafodd hi lun ohono’n dal y crys.

“Felly, gobeithio byth poster lan da ni fory nawr o hynny.

“Mae gwerthiant llawer gwell eleni na’r flwyddyn ddiwethaf. Mae pethe wedi clicio,” meddai cyn dweud ei fod yn “edrych ymlaen at Eryri flwyddyn nesaf.”

‘Ddim cystal’

Ond dywedodd Rhian Dafydd, perchennog siop ddillad Jibinc, nad oedd Eisteddfod yr Urdd eleni wedi bod cystal iddyn nhw a’r ŵyl yng Ngheredigion y llynedd.

“Fe wnaethon ni steddfod yr Urdd am y tro cyntaf y llynedd am ei fod e’n lleol i ni yn Llanerchaeron ac roedd rhaid ei drio fe unwaith,” meddai.

“Fe gawson ni wythnos dda iawn llynedd ond mae’n ardal hollol wahanol yma eleni a gwahanol gwsmer efallai.

“Roedd y llynedd yn ‘one off’ dw i’n meddwl. Roedd y lleoliad yn wych a llawer iawn o wyrddni – dw i’n credu fod hynny yn gwneud llawer iawn o wahaniaeth.

“Mae hon yn ardal fwy diwydiannol, ac mae’r economi wedi newid – mae pobl fwy gofalus â’u harian. Ac mae’r tywydd yn chwarae rhan bwysig mewn pethe fel hyn.

“Yn gyffredinol, dw i’n reit hapus, mae e di bod werth i fi neud e a dw i’n siŵr gwnâi feddwl am wneud Eryri flwyddyn nesaf ‘to,” meddai.

‘Tro cyntaf erioed’

“Dyma’r tro cyntaf erioed i Adra gael stondin yn Eisteddfod yr Urdd,” meddai Angharad Gwyn, perchennog Adra.

“Rydan ni wedi bod yn mynd i’r steddfod genedlaethol ers tua phedair blynedd bellach. Ond, dyma ein Heisteddfod yr Urdd gyntaf ni. Mae’r ddau ddiwrnod diwethaf wedi bod yn llwyddiannus dros ben.

“Dw i’m yn gwybod beth yw cyfanswm y gwerthiant heddiw ond ‘dw i unwaith eto yn hapus iawn.

“Un o’r rhesymau dw i wedi gwneud steddfod yr urdd eleni yw fel fy mod i’n cael bach o bractis cyn bod yr Eisteddfod ar y stepen drws i yn Eryri.

“Fe fydd y maes dafliad carreg o’r tŷ felly mi fydd Adra yn bendant hefo presenoldeb ar faes yr eisteddfod yr Urdd yn Eryri.”

‘Hapus iawn’

“Dydi hi ddim rhy ddrwg o gwbl yr wythnos hon,” meddai Graham Hughes, perchennog Connect2Fashion ar faes Eisteddfod yr Urdd.

“Mae’r bobl yn gyfeillgar iawn ac maen nhw’n hoffi’r hyn sydd gennym ni,” meddai cyn egluro mai dyma ei dro cyntaf yn yr Urdd – er ei fod yn gwerthu yn yr Eisteddfod Genedlaethol.

“Dw i’n hapus iawn gyda gwerthiant ac fe fyddai’n sicr yn dod yn ôl flwyddyn nesaf.”