Prifysgol Aberystwyth
Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi galw ar Lywodraeth y Cynulliad i gefnu ar eu cynlluniau i dalu ffioedd dysgu myfyrwyr Cymru.

Dywedodd llefarydd yr wrthblaid ar addysg, Angela Burns, nad oedd bellach yn ymarferol yn sgil penderfyniad y mwyafrif o brifysgolion i godi £9,000 ar fyfyrwyr o 2012 ymlaen.

Bydd myfyrwyr o Gymru yn parhau i dalu £3,375 y flwyddyn, a Llywodraeth Cymru yn talu’r £5625 arall.

Bydd unrhyw fyfyrwyr sy’n dod i Gymru o Loegr yn gorfod talu’r swm llawn, ond bydd y Cynulliad yn talu os yw myfyrwyr o Gymru yn mynd i astudio yn Lloegr, hefyd.

Roedd Llywodraeth Cymru wedi meddwl mai tua £7,000 fyddai cyfartaledd y ffioedd dysgu ar draws Cymru a Lloegr.

Ond mae’r mwyafrif o brifysgolion Lloegr, yn ogystal â Bangor, Aberystwyth, Caerdydd, Casnewydd a Morgannwg, wedi cyhoeddi y byddwn nhw’n codi’r £9,000 llawn.

“Roedd polisi’r Blaid Lafur yn gimig ar gyfer yr etholiad a doedden nhw heb wneud eu gwaith cartref wrth ragweld faint y byddai yn ei gostio,” meddai Angela Burns.

“Maen nhw wedi elwa yn y tymor byr drwy ddenu penawdau ffafriol yn y wasg ond nawr mae’r pris go iawn yn dechrau dod i’r amlwg.

“Mae yna gannoedd o filiynau o bunnoedd yn mynd i gael ei wario ar hyn. Mae’n drên ar ffo sydd angen ei atal ar fyrder.”

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod nhw’n gwybod faint y bydd talu’r ffioedd dysgu yn costio.

“Mae’r gweinidog yn credu fod y polisi yn fforddiadwy, yn gynaliadwy, ac rydyn ni wedi sicrhau fod digon o arian i dalu amdano nes o leiaf 2016,” meddai.

“Mae’n bwysig nodi mai Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru sydd â’r gair olaf wrth benderfynu a fydd prifysgolion yn cael codi rhagor na £4,000 ar fyfyrwyr.”

Mae Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru wedi cadarnhau eu bod nhw wedi derbyn cynlluniau ariannol 10 o brifysgolion y wlad cyn y terfyn amser ddydd Mawrth.