Sial
Mae Aelod Cynulliad wedi rhybuddio y dylid atal y drilio am nwy siâl ger Maesteg rhag ofn y bydd yn achosi daeargryn yn ne Cymru.

Yn ôl Peter Black, AC ar restr ranbarthol gorllewin de Cymru, dylid atal yr holl ddrilio arbrofol yng nghloddfa St John ar gyrion y dref.

Dywedodd nad oedd yna unrhyw esboniad eto ynglŷn â daeargryn a ddigwyddodd heb fod ymhell o safle drilio nwy siâl ger Blackpool ddydd Gwener ddiwethaf.

Digwyddodd y ddaeargryn 1.5 ar y raddfa Richter ar yr un adeg ag yr oedd cwmni ynni Cuadrilla Resources yn pwmpio hylifau dan ddaear dan bwysau uchel, er mwyn chwalu’r graig sy’n dal y nwyon.

Yr enw cyffredin ar y broses erbyn hyn yw “ffracio” – neu “fraking” – ac mae wedi cyrraedd Prydain o’r Unol Daleithiau, lle mae drilio nwy siâl eisoes yn bwnc llosg.

Mae arbenigwyr o’r Arolwg Daearegol Prydeinig wedi dweud fod y ddaeargryn ger Blackpool yr wythnos diwethaf yn debyg iawn i ddaeargryn 2.3 ar y raddfa Richter yn yr un ardal ym mis Ebrill.

Roedd y ddau yn ymddangos yn gysylltiedig â’r “ffracio” arbrofol ar gyfer nwy siâl ar arfordir Fylde.

Mae’r math yma o ddrilio diwydiannol eisoes wedi ei wahardd yn Ffrainc, yn ogystal â thaleithiau Efrog Newydd a Pennsylvania.

Mae yna bryder y gallai’r dŵr sy’n cael eu pwmpio dan ddaear halogi dŵr yfed.

Yn ôl adroddiadau o’r Unol Daleithiau roedd pobol yn gallu rhoi dŵr eu tap ar dân oherwydd y nwy methan sydd wedi treiddio iddo.

Yn ôl Peter Black, mae’r dystiolaeth hyn yn “ddigon difrifol i awgrymu y dylid atal y gwaith ym Maesteg, nes ein bod ni’n deall mwy am y broses a’i effeithiau”.

“Dylai’r posibilrwydd lleiaf y gallai dŵr gael ei lygru, neu y gallai’r drilio effeithio ar sefydlogrwydd y tir, atal y gwaith.

“Dylid mynd i’r afael â’r pryderon hyn cyn i’r gwaith ddechrau.”