Mae undeb amaethyddol wedi beirniadu adroddiad sy’n awgrymu y dylid talu ffermwyr i dyfu coedwigoedd ar eu tir er mwyn denu twristiaid.

Mae’r adroddiad yn awgrymu y byddai trawsnewid pumed rhan o dir fferm Cymru yn goedwigoedd o fudd economaidd i’r wlad.

Dywedodd yr Athro Ian Bateman, sy’n arbenigwr ar ecomomi amgylcheddol, y byddai coedwigoedd yn denu pobol o ddinasoedd i ymweld â chefn gwlad.

Awgrymodd fod coedwigoedd mawr Cymru yn rhy bell o bobman ar hyn o bryd, a bod angen eu tyfu ar gyrion dinasoedd fel Caerdydd.

Byddai rhoi nawdd i ffermwyr i wneud y newid yn talu ei ffordd gan y byddai yn arwain at lai o broblemau iechyd gan gynnwys gordewdra.

Mae’r agwrymiadau wedi eu cynnwys yn adroddiad Asesiad Ecosystem Cenedlaethol y Deyrnas Unedig gyhoeddwyd gan Defra heddiw.

Ond mae NFU Cymru wedi dweud fod y syniad yn un gwirion, a bod mwy o arina i’w wneud drwy gadw da byw.

“Mae angen cynhyrchu bwyd arom ni,” meddai Ed Bailey, llywydd NFU Cymru. “Mae pobol yn gallu mwynhau’r tirwedd heb fod angen iddo fod yn goediwgoedd.”