Ben a Catherine Mullany
Clywodd achos llys i lofruddiaethau pâr priod o Bontardawe yn Antigua sut y daethpwyd o hyd i’r cyrff ar ôl y saethu.

Dywedodd llygaid dystion fod Ben a Catherine Mullany yn gorwedd ar wahân mewn chalet gwaedlyd yn y Cocos Hotel, ar yr ynys yn y Caribî.

Cafodd y ddau oedd yn 31 oed eu saethu ar 27 Mehefin, 2008, ychydig dros bythefnos ar ôl diwrnod eu priodas.

Roedden nhw wedi bod yn aros mewn chalet ar dde-orllewin yr ynys ar eu mis mêl pan aeth o leiaf un saethwr i mewn i’w chalet wrth iddyn nhw gysgu.

Mae Avie Howell, 20 a Kaniel Martin, 23, yn gwadu llofruddio’r ddau.

Clywodd y llys fod Ben Mullany wedi ceisio siarad â gweithwyr y gwasanaethau brys cyn cael ei symud o’r chalet ble oedd ei wraig eisoes wedi marw.

Fe fu farw wythnos ar ôl yr ymosodiad yn Ysbyty Treforys yn Abertawe.

‘Ddim yn deall’

Wrth roi tystiolaeth o flaen Uchel Lys Antigua, dywedodd y technegydd meddygol Loretta Ephraim ei bod hi wedi dod i hyd i gorff Catherine Mullany ar y llawr. Roedd ei gŵr yn gorwedd ar y gwely yn y chalet.

“Pan gyrhaeddais i, sylwais ar y gwaed a’r rhwyd mosgitos ar y gwely,” meddai.

“Roedd dyn yn gorwedd ar y gwely a merch yn gorwedd ar y llawr ger y gwely.

“Roedd y ferch yn gorwedd yn llonydd iawn, ar y llawr. Roedd ei llygaid ar agor led y pen, ond doedd yna ddim symudiad.”

Ceisiodd osod bres o amgylch gwddf Ben Mullany ac atal y gwaed oedd yn dod o’i ben.

“Wrth i fi roi’r rhwym ymlaen, fe geisiodd o ddweud rhywbeth ond doeddwn i ddim yn deall beth,” meddai.

Ychwanegodd Loretta Ephraim ei fod yn “aflonydd” iawn ar y daith i Ysbyty Holberton gerllaw.

“Roedd yn ceisio siarad, ond doedden ni ddim yn deall beth oedd yn ceisio ei ddweud felly fe siaradais i â fo er mwyn ceisio ei gysuro,” meddai.