Catherine a Ben Mullany
Roedd dau ddyn sydd wedi eu cyhuddo o lofruddio pâr priod o Bontardawe oedd ar eu mis mêl wedi lladd eto yn fuan wedyn gan ddefnyddio bwled o’r un arf, clywodd llys heddiw.
Cafodd Ben a Catherine Mullany, y ddau yn 31 oed, eu saethu ychydig dros bythefnos ar ôl diwrnod eu priodas.
Yn fuan ar ôl eu marwolaethau cafodd y perchennog siop, Woneta Anderson, 43 oed, ei lladd dan amgylchiadau “bron yn union yr un fath”, honnwyd heddiw.
Wrth i’r achos llys ddechrau heddiw dywedodd yr Erlynydd Anthony Armstrong fod y diffynyddion Avie Howell, 20, a Kaniel Martin, 23, wedi gweithredu ar y cyd.
“Cafodd y tri pherson eu lladd mewn ffordd oedd bron yn union yr un fath,” meddai.
“Saethwyd y tri yn eu pennau, â un fwled. Cafodd y tri eu lladd gan ddefnyddio’r un arf.”
Roedd Ben a Catherine Mullany o Bontardawe wedi bod yn aros yn y Cocos Hotel ar dde-orllewin yr ynys pan aeth o leiaf un saethwr i mewn i’w chalet wrth iddyn nhw gysgu.
Clywodd gymdogion Catherine Mullany yn galw am gymorth yn oriau man y bore 7 Gorffennaf, 2008. Roedd hefyd sgrechfeydd a sŵn dryll yn tanio.
Pan gyrhaeddodd yr heddlu’r bore hwnnw, roedd hi eisoes wedi marw o glwyf i’w phen ar ôl i’r ymosodwr ei saethu.
Dioddefodd Ben Mullany, o Ystalyfera, waedlif ar yr ymennydd ar ôl i fwled deithio drwy ei wddf ac i mewn i’w benglog.
Aethpwyd ag ef yn ôl i Ysbyty Treforys yn Abertawe ond fe fu farw wythnos ar ôl y saethu.
Cafodd ef a’i wraig eu claddu ar dir yr un capel lle’r oedden nhw wedi priodi tua mis ynghynt.
Woneta Anderson
Honnodd yr erlynydd fod Howell a Martin wedi ymosod eto ar 8 Awst, gan ladd Woneta Anderson yn ei chartref.
Dywedodd Anthony Armstrong fod cysylltiad rhwng Howell a Martin a bod un o’r llofruddiaethau.
“Yn fuan ar ôl saethu Ben a Catherine Mullany, mae yna dystiolaeth sy’n dangos eu bod nhw wedi cymryd ffon symudol Ben Mullany,” meddai.
“Mae yna dystiolaeth fydd yn dangos fod un o’r ddau hefyd yn lle y cafodd Woneta ei lladd.”
Ychwanegodd y byddai “synnwyr cyffredin” yn dangos i’r rheithgor mai nhw oedd yn gyfrifol.