Yr arwydd cyn cael ei newid
Mae ymgyrchwyr iaith wedi cyhuddo Bwrdd yr Iaith Gymraeg o “osod cynsail peryglus” wedi iddyn nhw gytuno â phenderfyniad dau bentref yn Sir Fynwy i gael gwared ar eu henwau Cymraeg.

Mae cynghorau cymunedol Rockfield a Cross Ash wedi dileu enwau Llanorwy a Chroes Onnen o’u harwyddion ffyrdd, chwe blynedd ar ol iddyn nhw gael eu cyflwyno.

Roedd y cynghorwyr a’r trigolion lleol a fu’n gwthio i gael gwared ar yr enwau yn dweud nad oedd sail hanesyddol i’r enwau.

Ond mae Cymdeithas yr Iaith wedi beirniadu Bwrdd yr Iaith am gytuno â’u safiad.

‘Siomedig’

Yn ôl Bethan Williams, cadeirydd Cymdeithas, roedd “yn siomedig iawn clywed ymateb Bwrdd yr Iaith.  Mae’n gosod cynsail peryglu i ardaloedd eraill.”

Bron i hanner can mlynedd ers ymgyrch arwyddion ffyrdd Cymdeithas yr Iaith yn y 1960au, pan fu protestwyr allan yn ymgyrchu dros gael arwyddion dwyieithog, mae Bethan Williams yn gweld y penderfyniad yn “gam mawr am yn ôl”.

“Mae’n cael gwared ar elfen o Gymreictod yr ardal,” meddai Bethan Williams, “ac yn dangos ddiffyg parch llwyr at y Gymraeg gan y cyngor lleol.”

Bwrdd yr Iaith yn amddiffyn

Ond mae Bwrdd yr Iaith wedi amddiffyn eu penderfyniad, gan ddweud fod y Pwyllgor Safoni wedi ystyried yr enw, ac wedi methu a gweld unrhyw sail hanesyddol i’r enwau Cymraeg.

“Does dim tystiolaeth fod yr enwau hyn yn cael eu defnyddio’n gyfredol nac yn perthyn i hanes lleol,” medden nhw.

“Yr hyn maen nhw bellach wedi dewis ei wneud, a’r hyn y mae’r bwrdd wedi ei argymell, yw defnyddio Rockfield yn unig.

“Dydyn ni ddim yn argymell yr enw Llanoronwy am Rockfield gan fod un o ganllawiau y Pwyllgor Safoni Enwau Lleol yn datgan y dylid ‘osgoi ffurfiau pedantaidd neu hynafol a chyfieithiadau llythrennol neu fympwyol os nad oes tystiolaeth gadarn eu bod yn cael eu defnyddio’n gyffredinol yn lleol ac yn genedlaethol’.”

Mae cynghorau cymunedol Rockfield a Cross Ash bellach wedi paentio dros yr enwau Cymraeg, gan adael yr enwau Saesneg yn unig.