Barry Morgan
Mae Archesgob Cymru, Barry Morgan, wedi gofyn am gael cyfarfod y Dirprwy Brif Weinidog, Nick Clegg, er mwyn cael mynegi er bryderon am ddyfodol S4C.

Mae wedi anfon llythyr cyhoeddus yn galw ar Nick Clegg i bleidleisio yn erbyn cynnwys S4C yn y Mesur Cyrff Cyhoeddus.

Bydd cynnwys S4C yn y mesur yn rhoi’r hawl i weinidogion ei newid neu ei ddileu heb ymgynghori â’r senedd.

Aiff yn ei flaen i alw am arolwg annibynol i ddyfodol y sianel.

“Yr wyf yn ysgrifennu atoch fel Archesgob Cymru i ofyn i chi a’ch plaid, y Democratiaid Rhyddfrydol, i ystyried pleidleisio dros dynnu y cymalau sy’n ymwneud ag S4C allan o’r Mesur Cyrff Cyhoeddus fydd yn dod ger bron Tŷ’r Cyffredin yn fuan,” meddai yn y llythyr.

”Cyn i unrhyw benderfyniad gael ei wneud ynglŷn a dyfodol S4C fe ddylid cynnal arolwg annibynnol cynhwysfawr a thrylwyr i ddyfodol y Sianel.

“Mae arweinwyr pob un o’r pedair prif Blaid yng Nghymru wedi galw am hyn ac mae’n hanfodol fod y safbwynt unedig hwn yn cael ei ystyried.

“Os na thynnir y cymalau sy’n ymwneud ag S4C allan o’r Mesur Cyrff Cyhoeddus fe fydd S4C yn colli ei hannibyniaeth a 40% o’i chyllid ac ni fydd sicrwydd o gwbl ym mha fodd y bydd yn cael ei hariannu a’i rhedeg ar ôl 2015.

“Felly ni ellir cynllunio ar gyfer dyfodol darlledu Cymraeg, os bydd yna’n wir ddyfodol o gwbl. Pan sefydlwyd S4C yn y lle cyntaf yr oedd deddfwriaeth gwlad oedd yn ei gwarchod rhag ymyrraeth wleidyddol. Ond yn awr, o basio’r Mesur Cyrff Cyhoeddus fe gollir yr amddiffyniad hwnnw.

”Tybed felly a fyddai modd i chi ystyried cyfarfod dirprwyaeth o Gymru, i drafod y mater hwn ymhellach?”

Ymateb

Dywedodd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg eu bod nhw’n croesawu llythyr yr Archesgob.

“Mae llythyr yr Archesgob yn dangos bod yna gonsensws cryf yng Nghymru ymysg cymdeithas sifil; consensws sydd yn gwrthwynebu cydgynllun y Llywodraeth a’r BBC yn Llundain ar gyfer S4C,” meddai Menna Machreth, llefarydd darlledu Cymdeithas yr Iaith.

“Cynllun sydd yn golygu cwtogi ar grant i’r sianel o naw deg pedwar y cant – llawer iawn mwy nac unrhyw adran arall o’r llywodraeth – a gadael i’r BBC gymryd y sianel drosodd.

“Cynllun sydd yn rhoi dyfodol unig sianel deledu Gymraeg y byd yn y fantol, ac sydd yn fygythiad uniongyrchol i ddyfodol y Gymraeg hefyd.  Rydyn ni’n falch iawn bod yr Archesgob yn fodlon codi cwestiynau am y cynlluniau annoeth hyn.

“Mae’n debyg mai Ysgrifennydd Diwylliant Prydain, Jeremy Hunt, a Cyfarwyddwr Cyffredinol y BBC, Mark Thompson, ydy’r unig bobl ar ôl ym Mhrydain sydd dal i feddwl bod uno S4C a’r BBC yn syniad da.

“Erbyn hyn, mae’r cynlluniau ar gyfer S4C wedi cael ei beirniadu gan arweinwyr y pedair prif blaid yng Nghymru, y Pwyllgor Materion Cymreig, degau o undebau a mudiadau iaith, degau o filoedd o bobl sydd wedi llofnodi deiseb, mynychu ralïau ac ysgrifennu at wleidyddion, a nawr pwyllgor diwylliant Tŷ’r Cyffredin.

“Mae’n amlwg bod rheolwyr y BBC yn Llundain a’r Llywodraeth wedi cael eu hynysu’n wleidyddol, ac mae’r holl gynlluniau nawr mewn stad o argyfwng.”