Maes Eisteddfod yr Urdd
Mae un o gynghorwyr Abertawe wedi dweud ei fod yn anffodus bod dechrau Eisteddfod yr Urdd wedi cyd-daro â gêm fawr Abertawe ym Wembley.

Dywedodd y Cynghorydd Robert Francis Davies sy’n cynrychioli ward Treforys fod y gêm bêl-droed wedi “taflu cysgod” dros yr ŵyl.

Ddoe fe fuodd chwaraewyr yn dathlu eu dyrchafiad i Uwch Gynghrair Lloegr gyda thaith mewn bws agored o amgylch y ddinas, gan gychwyn o’u hen gae, y Vetch, am 6.30pm.

Daw’r dathlu ar ôl i’r Elyrch faeddu Reading o 4-2 yn Wembley a sicrhau dyrchafiad i Uwch Gynghrair Lloegr.

Ond dywedodd Robert Francis Davies nad oedd yr exodus mawr i Lundain wedi gwneud lles i Eisteddfod yr Urdd.

‘Gadael am Lundain’

“Roeddwn i’n un o’r 40,000 o bobl aeth i wylio’r gêm bêl-droed. Roedd e fel golygfa o ffilm – pawb yn gadael am Lundain.

“Mae’r Urdd wedi bod yn beth da i’r ddinas. Ond roedd poblogaeth Abertawe wedi syrthio 40,000 ddydd Llun ac fe alla’i ddychmygu fod yr Urdd wedi dioddef.

“Roedd siopau Abertawe’n wag ddechrau’r wythnos,” meddai.

Ychwanegodd ei fod hefyd yn credu bod yr holl sylw yn y wasg i gampau’r Elyrch wedi boddi unrhyw son am Eisteddfod yr Urdd yn y papurau lleol.

“Fe allen nhw fod wedi rhoi rhagor o sylw i’r ŵyl. Roedden nhw wedi canolbwyntio ar y pêl-droed, sy’n anffodus i bobl ifanc yr Urdd a dweud gwir.”

Pwnc llosg

Dywedodd y cynghorydd Dennis James, sy’n cynrychioli ward Llansamlet, ei fod yn “anffodus bod y pêl-droed wedi cysgodi dechrau’r eisteddfod eleni”.

“Mae’n rhaid i mi fod yn onest – ‘dw i’n meddwl bod llwyddiant y pêl-droed wedi cysgodi popeth arall sy’n digwydd yn y ddinas,” meddai.

“Dyna’r cwbl mae pawb yn siarad amdano. Dw i wedi methu ennyn eu diddordeb mewn unrhyw bwnc arall.

“Dw i’n meddwl bod Eisteddfod yr Urdd yn ffantastig. Mae’n well na’r Eisteddfod Genedlaethol pan oedd yma.

‘Ond dw i’n meddwl y byddai llawer mwy o bobl wedi dod heblaw am y gêm bêl-droed. Mae’n biti…

“Ro’ ni’n meddwl fod nifer da yma ddoe, ac roedd yn syndod gwrando ar newyddion neithiwr a deall bod niferoedd i lawr.

“Ond mae’n braf gweld pobol o bob math o gefndiroedd yn mwynhau’r yr eisteddfod. Mae wedi hyrwyddo’r iaith Gymraeg a’r diwylliant.”