Alun Ffred Jones
Mae cyn-Weinidog Treftadaeth Cymru wedi galw ar y BBC i gadw presenoldeb ymysg y Cymry Cymraeg yn dilyn sîon fod eu swyddfa fwyaf y tu allan i Gaerdydd yn wynebu toriadau.

Mae BBC Cymru yn edrych ar y posibilrwydd o gau ei ganolfan aml-gyfryngol ym Mryn Meirion, Bangor.

Mae’n un o sawl cynnig sy’n cael ei ystyried mewn dogfen fewnol sydd wedi mynd i ddwylo’r wasg.

Mae’r ddogfen yn trafod sut y gall BBC Cymru sicrhau toriadau o 20% i’w gwasanaethau, yn unol â’r targed ar draws holl wasanaethau’r BBC.

Ymysg y cynigion mae symud “canran uchel” o’r staff swyddfa Bryn Meirion i weithio o adref, tra bod ystafell newyddion wag yn cael ei gadw ar y safle.

Ond dywedodd Aelod Cynlluniad Arfon, Alun Ffred Jones, y byddai israddio swyddfeydd Bangor yn cael effaith andwyol ar yr ardal.

“Bangor yw unig bresenoldeb mawr y BBC yng Nghymru y tu hwnt i Gaerdydd,” meddai.

“Mae yna angen pendant am safle gynhyrchu pwysig tu allan i Gaerdydd,” meddai. “Dwi ddim eisiau gweld beth sydd wedi digwydd yn Llundain, lle mae’r diwydiant yno yn ffynnu ar draul gweddill y wlad.”

Dywedodd ei fod yn hollbwysig fod gan y BBC bresenoldeb o fewn cymuned sy’n siarad Cymraeg.

“Dyna y mae Bangor yn ei gynnig, yn bendant,” meddai.

Arian

Er ei fod yn gwrthwynebu israddio swyddeydd y BBC ym Mangor, dywedodd Alun Ffred Jones ei fod yn deall bod rhai torri rhywle.

“Dydw i ddim o blaid y toriadau ym Mangor, ond mae’n well gweld newidiadau na fod ansawdd y rhaglenni yn disgyn,” meddai.

“Serch hynny dydw i ddim yn derbyn fod hyn yn mynd i ddigwydd,” meddai, “ond mae’n rhaid i unrhyw sefydliad yn y maes cyhoeddus feddwl yn radical am y ffordd y maen nhw’n gweithio.”