Iolo Williams (llun S4C)
Bydd llais yr arbenigwr ar fyd natur, Iolo Williams, yn tarddu o feinciau yng ngerddi a thai hanesyddol yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

Bydd y meinciau ‘siaradus’ gafodd eu datgelu heddiw hefyd yn cynnwys lleisiau Stephen Fry a John Sergeant.

Bydd y meinciau yn rhoi cyfle i gerddwyr llesg glywed rhywfaint o hanes y bensaernïaeth neu’r dirwedd sy’n eu hamgylchynu.

Fe fydd y meinciau yn cael eu gosod ar dir yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon.

Bydd llais Iolo Williams, sy’n fwyaf enwog am gyflwyno rhaglenni ar sianel S4C, i’w glywed ym Mharc Dinefwr ger Llandeilo.

“Daeth y syniad i greu’r meinciau ar ôl ymchwil oedd yn dangos mai dim ond hanner y wlad sy’n cymryd yr amser i fwynhau cerdded yn yr awyr agored,” meddai llefarydd ar ran yr ymddiriedolaeth.

“Maen nhw’n gwmni da ac yn cynnig barn rhywun enwog am y golygfeydd o’u cwmpas nhw.”