Wylfa
Gallai cynlluniau i adeiladu ail orsaf niwclear ar Ynys Mon arwain at brinder cartrefi i drigolion lleol, yn ôl adroddiad newydd.

Mae cwmni Horizon Nuclear Power eisiau adeiladu gorsaf niwclear arall ar y safle sy’n amgylchynu yr orsaf bresennol yn Wylfa.

Cyhoeddodd Llywodraeth San Steffan ym mis Hydref eu bod nhw wedi rhoi sêl bendith i’r orsaf niwclear. Mae disgwyl y bydd Wylfa B yn weithredol erbyn 2020.

Bydd tua 6,000 o weithwyr yn cael eu cyflogi er mwyn adeiladu’r orsaf niwclear pan mae’r gwaith ar ei anterth, yn 2017.

Y disgwyl yw y bydd tua 70% o’r rheini angen llety ar yr ynys, ac y gallai hynny olygu bod teuluoedd yn ei chael hi’n anodd dod i hyd i lefydd i fyw.

“Os ydi datblygiad Wylfa B yn mynd rhagddo, mae’n bosib y bydd rhai landloridiaid yn rhoi’r gorau yn llwyr i rentu tai i bobol sydd ar fudd-daliadau tai,” meddai’r adroddiad gan reolwyr budd-daliadau’r cyngor Geraint Jones.

“Mae yna ddiffyg tai cyngor sydd ar gael ar eu cyfer nhw, ac felly mae’n bosib y bydd nifer o bobol yn ddi-gartref.”

Yn ôl yr adroddiad mae disgwyl y bydd pobol sy’n gweithio ar Wylfa B yn cymryd tua 50% o’r lletyau sydd wedi eu rhentu i bobol ar fudd-daliadau tai.