Mae Gwasanaeth Ambiwlans Cymru wedi penderfynu peidio â chyflwyno 21 o gerbydau newydd am y tro oherwydd pryderon am eu diogelwch.

Maen nhw wedi dod o hyd i 56 problem ar 21 o gerbydau, sy’n rhan o fflyd newydd o 42 cerbyd a fydd yn disodli’r ambiwlansiau presennol.

Dywedodd Gwasanaeth Ambiwlans Cymru nad oedden nhw’n fodlon datgelu beth yn union oedd wrth wraidd y problemau.

Datganiad y Gwasanaeth

“Roedd Gwasanaeth Ambiwlans Cymru wedi archebu 42 ambiwlans newydd gan ddau gwmni gwahanol,” medden nhw. “Mae hanner yr ambiwlansiau Mercedes 519 yma bellach ar y ffyrdd.

“Rydyn ni wedi penderfynu peidio defnyddio’r 21 arall am y tro ar ôl ymchwiliad gan ein tîm cerbydau, a oedd yn cynnwys sawl uwch reolwr fu’n rhan o’r penderfyniad.

“Mae’r ymddiriedolaeth a’r cynhyrchwyr yn gweithio yn agos iawn gyda’i gilydd er mwyn addasu’r cerbydau er mwyn sicrhau eu bod nhw cystal â’n hambiwlansiau cyfredol.

“Rydyn ni’n pwysleisio na fyddwn ni’n rhoi’r gorau i ddefnyddio’r ambiwlansiau cyfredol nes bod yr ambiwlansiau newydd yn barod.

“Ni fydd yna unrhyw effaith ar y gwasanaeth yr ydym ni’n ei ddarparu ar gyfer y cyhoedd.”