Craig Bellamy
Cymdeithas Bêl Droed Lloegr fydd yn disgyblu chwaraewyr Caerdydd ac Abertawe o’r tymor nesaf ymlaen.

Roedd y clybiau o Gymru yn arfer cael eu disgyblu gan Gymdeithas Bêl Droed Cymru, ond fe fydd y cyfrifoldeb yn cael ei drosglwyddo erbyn y tymor nesaf.

Yn ôl Pennaeth Cysylltiadau Cyhoeddus Cymdeithas Bêl Droed Cymru, Ian Gwyn Hughes, roedd y clybiau eu hunain wedi pwyso am y newid.

Mae yna dadlau wedi bod yn y gorffennol wrth i chwaraewyr clybiau o Gymru gael dedfrydau gwahanol i chwaraewyr clybiau Lloegr.

Mae rhai wedi awgrymu bod Cymdeithas Bêl Droed Cymru wedi bod yn rhy drugarog â chwaraewyr y clybiau o Gymru yn y gorffennol.

Mae Cymdeithas Bêl Droed Lloegr hefyd wedi gwthio am y newid mwyn sicrhau bod timau sy’n chwarae yn yr un gynghrair o dan yr un drefn disgyblu.

“Fe fydd Cymdeithas Bêl Droed Cymru yn dal i oruchwylio’r materion ac fe fydd gennym ni gynrychiolaeth ar y panel disgyblu, ond Cymdeithas Bêl Droed Lloegr bydd yn penderfynu’r gosb,” meddai Ian Gwyn Hughes.

“Mae Cymdeithas Bêl Droed Lloegr eisiau cael popeth o dan yr un faner.”