Mae’r cwmni sy’n darparu’r cyswllt awyren rhwng Ynys Môn a Chaerdydd wedi dechrau hedfan teithwyr o Ynys Môn i Ynys Manaw unwaith eto.

Bydd y gwasanaeth yn rhedeg o heddiw ymlaen, drwy gydol yr haf, cyn dod i ben ar 5 Medi.

Dyma’r ail flwyddyn yn olynol y mae cwmni Manx2 wedi darparu’r gwasanaeth, ar ôl derbyn “adborth da iawn” y llynedd.

“Rydyn ni wrth ein bodd yn cael cynnig cyfle i deithwyr ymweld â Ynys Mon ac Ynys Manaw unwaith eto, ac am dros dri mis eleni,” meddai cadeirydd Manx2.com, Noel Hayes.

Mae’r awyren yn hedfan dwywaith yr wythnos, bob dydd Llun a Gwener, o heddiw ymlaen. Bydd taith ychwanegol ar ddydd Mercher o 22 Gorffennaf ymlaen.

Mae gan y cwmni gytundeb pedair blynedd i hedfan teithwyr rhwng Ynys Môn a Chaerdydd.