Mae’r heddlu wedi lansio ymgyrch heddiw er mwyn mynd i’r afael â phobol sy’n yfed a gyrru dros yr haf.

Fe fydd yr ymgyrch, sy’n cael ei gynnal ar draws Prydain, yn cael ei lansio yng Nghymru ar Faes Caernarfon heddiw.

Mae disgwyl y bydd dros 100,000 o yrwyr yn cael eu hatal gan yr heddlu’r mis yma, wrth iddyn nhw geisio dal pobol sydd dan ddylanwad alcohol a chyffuriau.

Yng Nghymru y llynedd, cafodd 25,714 o bobol eu hatal a methodd 513 y prawf, yn ystod ymgyrch yr haf.

Dywedodd y Prif Gwnstabl Phil Gormley, o Gymdeithas Penaethiaid yr Heddlu, y bydden nhw’n atal pobol “bob awr a’r dydd a’r nos, ac ar bob math o ffordd”.

“Os ydych chi’n gyrru dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau mae yna gyfle da y byddwch chi’n cael eich atal a’ch dal,” meddai.

Yn 2009, roedd 17% o’r rheini fu farw ar ffyrdd Ynysoedd Prydain wedi marw o ganlyniad i wrthdrawiad oedd yn cynnwys rhywun oedd yn yfed a gyrru.

“Mae bywydau yn cael eu gwastraffu mewn modd cwbl annerbyniol ac fe fyddwn ni’n parhau i dargedu pobol sy’n troseddu,” meddai Phil Gormley.