Protest Cymdeithas yr Iaith
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi protestio ar faes Eisteddfod yr Urdd heddiw gan honni fod bywyd un o hoff gymeriadau plant Cymru wedi ei roi “yn y fantol” gan y toriadau i gyllideb S4C.

Ymysg y siaradwyr yn y brotest oedd Bethan Jenkins AC, llefarydd darlledu Plaid Cymru, a Keith Davies AC ar ran y blaid Lafur.

Er mwyn darlunio eu ffawd cafodd Cyw a chymeriadau eraill S4C eu “hela” o amgylch y maes gan actor yn chwarae rhan y Gweinidog Diwylliant, Jeremy Hunt.

Rhybuddiodd Bethan Williams, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ,y byddai ariannu S4C drwy ffi drwydded y BBC yn achosi tensiynau yng Nghymru.

“Ar hyn o bryd mae Torïaid yn Llundain yn ceisio lladd Cyw a’i ffrindiau – cymeriadau plant hynod o boblogaidd,” meddai.

“Mae darlledu Cymreig mewn argyfwng, does dim amheuaeth am hynny. Rydyn ni ar lwybr sydd yn arwain at sefyllfa hunllefus.

“Fe fyddai’r cyfuniad o doriadau enfawr, yn ogystal â’r cynllun i uno S4C a’r BBC, yn golygu tensiynau iaith barhaol yn ein gwlad.

“Rydyn ni wedi bod yn rhybuddio am hyn ers dechrau’r helynt i S4C bron i flwyddyn yn ôl. Poen y tensiynau hynny a sicrhaodd cefnogaeth holl bobl Cymru tu ôl i’r syniad bod angen S4C fel sefydliad holl annibynnol yn y saithdegau.”