Prifysgol Bangor (Dave Thompson/PA)
Mae Prifysgol Bangor wedi cyhoeddi eu bwriad i godi ffioedd dysgu o £9,000 ar fyfyrwyr o fis Medi 2012 ymlaen.

Bangor yw’r drydedd brifysgol yng Nghymru i gyhoeddi eu bod nhw’n bwriadu codi’r uchafswm ar fyfyrwyr, yn dilyn cyhoeddiadau gan Brifysgol Aberystwyth a Phrifysgol Caerdydd.

Mewn datganiad dywedodd llefarydd ar ran y brifysgol fod codi’r uchafswm yn “ymgais i gynnal a gwella’i henw da am brofiad o’r safon uchaf i fyfyrwyr”.

Yn unol â pholisi Llywodraeth Cymru, bydd myfyrwyr sy’n byw yng Nghymru yn talu dim ond y ffi gyfredol o tua £3,400 y flwyddyn.

Dywedodd Is-Ganghellor Prifysgol Bangor, Yr Athro John Hughes, fod yr “hinsawdd gyllidebol yn llawn her” ac nad oedd yn benderfyniad hawdd i’r brifysgol.

Serch hynny roedden nhw’n “hollol benderfynol o gynnal a gwella’r hyn a gynigiwn,” meddai.

Bwrsariaethau i fyfyrwyr incwm isel

Dywedodd ei fod wedi dod i’r casgliad fod angen codi ffioedd “yng nghyd-destun y gostyngiad sylweddol mewn cefnogaeth gan y llywodraeth i brifysgolion”.

“Bwriadwn gynyddu nifer y bwrsariaethau i fyfyrwyr o gefndiroedd incwm isel, buddsoddi yn yr isadeiledd dysgu, a gwella’n darpariaeth ar gyfer chwaraeon a hamdden i fyfyrwyr,” meddai.

“Rydym ni eisoes yn buddsoddi’n helaeth yn natblygiad uchelgeisiol Pontio, sy’n werth miliynau o bunnoedd. Bydd hyn yn cynnwys cyfleusterau addysgu newydd yn ogystal â theatr, lle sinema ac Undeb newydd y Myfyrwyr, a bydd y mentrau ychwanegol yma’n adeiladu ar y project cyffrous hwn.”