Brawd hŷn yn ysgogi cerddor ifanc

Diweddarwyd  


Mared Emlyn
Arbenigwraig ar y delyn yw enillydd y Fedal Gyfansoddi yn Eisteddfod yr Urdd eleni.

Dywedodd Mared Emlyn o Aelwyd Llanrwst wrth Golwg360 mai ei brawd hŷn yn cyfansoddi yw un o’r rhesymau y dechreuodd hithau wneud yr un peth.

Fe gafodd ei magu yn Llangernyw ond erbyn hyn mae’r teulu yn byw yn Eglwys Bach yn nyffryn Conwy.

Cafodd ei haddysg yn ysgolion Bro Cernyw a Dyffryn Conwy, cyn mynd i astudio cerddoriaeth ym Mhrifysgol Bangor.  Graddiodd yn 2009 gydag Anrhydedd Dosbarth Cyntaf.  Derbyniodd Ysgoloriaeth KESS drwy gydweithrediad â Chwmni Cyhoeddi Gwynn i ddilyn cwrs doethuriaeth mewn perfformio telyn a chyfansoddi ym Mangor.

‘Crefft a chyflwyniad’

Beirniaid y gystadleuaeth oedd Einon Dafydd ac Eric Jones, a meddent am waith Mared i’r delyn:“Cyfansoddiad gorffenedig… sy’n arddangos cymhelliad, crefft a chyflwyniad canmoladwy. Mae’r cyfanwaith, sef cyfres o ddawnsfeydd – Perlau yn y Glaw – wedi ei saernïo’n ofalus a chrefftus…  Credwn y gallai’r darnau hyn fynd i’r wasg yn eu cyflwr presennol ac y bydden nhw’n gyfraniad gwerthfawr i repertoire y delyn.”

Aled Wyn Clark, Aelod Unigol o Ddinbych ddaeth yn ail a Tim Harrison, Aelod Unigol o Gylch Castell Nedd ac Afan yn drydydd. Roedd y fedal yn cael ei rhoi eleni gan Gorau a Band Pontarddulais.

‘Byr  bywiog’

“Ro’n ni eisiau creu darnau byr bywiog,” meddai Mared Emlyn cyn egluro bod pum darn i gyd.

“Yng Nghymru, mae’r delyn yn boblogaidd a dw i’n gwybod bod angen darnau cyfoes ar gyfer y delyn er mwyn adeiladu repertoire.

“Dw i’n licio darnau rhythmig hefo ychydig o ‘off beat’ ynddyn nhw. Dw i’n hoffi gwrando ar Prokofiev ac yn hoffi gwrando fwyaf ar hyn o bryd ar gerddoriaeth ffilm. Cerddoriaeth pobl fel John Williams neu rywun gydag alawon gwych.

“Dw i’n meddwl y gwnes i ddechrau’ cyfansoddi pan wnaeth Rhun fy mrawd ddechrau cyfansoddi pan oedd o yn blwyddyn 9 yn yr ysgol. Mae o dair blynedd yn hyn na fi a ro’ ni eisiau ei gopïo fo dw i’n meddwl …

“Ar gyfer y darn yma, fe wnes i eistedd wrth y delyn yn gwybod mod i isio cyfansoddi ar gyfer y delyn a chael sketchbook manuscript  a dechrau gwneud nodiadau  na fydda neb arall yn ei ddeall ac wedyn mynd ati i’w roi o ar y cyfrifiadur.”

Erthyglau perthnasol

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.

Rheolau Cyfrannu | Nodi Camddefnydd

Rheolau Cyfrannu

Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.

Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.

Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360 yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.

Iawn

Nodi Camddefnydd

Os ydych chi’n credu bod y neges yma’n torri rheolau’r wefan, cliciwch ar y faner nodi camddefnydd sy’n ymddangos wrth sgrolio dros unrhyw sylwad. Os bydd tri pherson yn anhapus, bydd y neges yn dod yn ôl at Golwg360 i’w ddilysu.

Iawn

Owain Glyn Dŵr a dysgu hanes Cymru – darlith Dr Elin Jones