Mae teuluoedd wedi datgan siom wrth Golwg360 heddiw am safon maes carafanau Eisteddfod yr Urdd yn Abertawe eleni.

Mae cwynion am ddiffyg cawodydd a phrinder toiledau – dim ond tri thoiled ‘portaloo’ sydd ar y maes i gyd.

“Yn gyffredinol, rydyn ni’n siomedig dros ben gyda safon y maes carafanau,” meddai Elinor Evans o Meidrim, San Clêr.

“Mae wedi’i hysbysebu fel maes moethus. Ond, rydych chi hanner milltir i ffwrdd o ddechrau’r maes carfanau a dim ond tri thoiled sydd rhwng 200 o garafanau,” meddai. “Allwch chi ddychmygu cyflwr  y toiledau a dim cawodydd i’r carfanau . Mae’r cawodydd ar faes arall dros hanner milltir i ffwrdd.

“Mae’n rhaid chi weld e’ i ddeall mor ofnadwy yw e.”

Mae tair yn y garafán ar hyn o bryd, meddai – ac fe fydd pump erbyn diwedd yr wythnos.

“Rydyn ni wedi bod yn dod i garafanio ers blynyddoedd ac mae gyda nhw wastad doiledau a chawodydd ond dim cawodydd eleni… Dw i’n ystyried anfon llythyr i gwyno. Mae pawb dw i wedi siarad gyda nhw yn anhapus. Y siom fwy na dim yw gorfod dioddef fel hyn gyda thri thoiled.

“Rydyn ni wedi talu £180 am yr wythnos a heb hael gostyngiad ar y pris i feddwl nad yw’r un adnoddau yma a llynedd. Rydan ni hefyd dipyn o bellter o’r maes – tua phedair milltir,” meddai.

Anhapus

Roedd Mair Long o Gaerdydd, sy’n carafanio yn yr Eisteddfod yn flynyddol, hefyd yn anhapus â’r ddarpariaeth eleni.

“Ochr draw i’n cae ni ble mae’r garafán – mae ’na dri toilet ac mae hwnnw ar gornel felly dydi o ddim yn saff iawn i’r plant. Os ydyn nhw’n mynd i’r tŷ bach bydden nhw’n gallu rhedeg allan at y ceir …”

“Os ydych chi eisiau mynd i gael cawod – mae’n rhaid cerdded tua hanner milltir i gyrraedd fanno,” meddai.

“Mae’r cawodydd ar faes carafanau Riverside. Hen garafán sydd gan fam a dad felly does dim cawod yn y garafán . Mae tŷ bach gyda ni – felly mae’n broblem. Lwcus mod i ’di cael cawod yn nhŷ ffrind neithiwr am fy  mod i’n cystadlu bore heddiw, Ond, allai ddim mynd i dŷ ffrind bob  nos,” meddai cyn dweud bod pedwar ohonynt yn rhannu’r garafán.

“Dw i’n siomedig iawn. Rydan ni’n talu am y maes carafanau a dydyn ni ddim yn cael beth y dylen ni fod yn cael deud y gwir,” meddai gan ddweud y bydd yn cwyno am y sefyllfa.

“Ry’ ni wedi gorfod ffonio bore heddiw gyda’r  sefyllfa bysus Gwenol oherwydd buodd mam yn aros dros awr am fws i fynd o’r maes carafanau i’r eisteddfod heddiw ac fe wnaeth hi golli’r seremoni agoriadol.

Fe ddywedodd bod y sefyllfa “lot gwaeth” eleni nac yn y blynyddoedd diwethaf.”Dyw hi ddim yn sefyllfa neis o gwbl a dweud y gwir.”

Ymateb yr Eisteddfod

Mewn ymateb i’r cwynion, dywedodd Aled Siôn, Cyfarwyddwr Eisteddfod yr Urdd:

“Er ei fod yn ddyhead bob tro i osod y maes carafanau ar yr un safle â Maes yr Eisteddfod, oherwydd natur safle’r Maes eleni nid oedd yn bosibl sichrau hynny. O’r herwydd, mae’r Maes wedi ei leoli fel rhan o faes carafanau  parhaol, nepell o gyffordd 45 o’r M4, sef un gyffordd o Faes yr Eisteddfod. Mae bysiau wennol wedi eu darparu i gludo carafanwyr i’r Eisteddfod ac oddi yno rhwng yr oriau o 7 y bore a 10 yr hwyr .

“Mae adnoddau Maes Carafanau Riverside ar gael i garafanwyr Eisteddfod yr Urdd ond oherwydd natur y safle, nid ydynt o fewn pellter cerdded hwylus.  Rhoddwyd gwybod i garafanwyr fod angen i’w carafan fod yn hunan gyhaliol ac rydym wedi darparu trydan i bob carafan a dŵr.

“O ran y bysus wennol o’r Maes Carafanau, rydym yn ymwybodol fod anawsterau wedi bod heddiw fodd bynnag, rydym yn hyderus y gallwn ddatrys y broblem yn fuan. Bu galw mawr am fysiau addas yn ardal Abertawe heddiw am resymau amlwg a chredwn fod hyn wedi cael effaith ar y ddarpariaeth heddiw.”