Wembley
Mae tua 40,000 o gefnogwyr Abertawe ar eu ffordd i Lundain y bore yma – neu wedi cyrraedd eisoes.

Maen nhw’n barod am un o’r gêmau mwya’ yn hanes y clwb, gyda gobaith o gyrraedd yr Uwch Gynghrair – a hynny wyth mlynedd ers iddyn nhw ddod o fewn gêm i adael prif gynghreiriau Lloegr yn llwyr.

Yn ôl yr arbenigwyr, mae’r gêm ynWembley heddiw yn erbyn Reading yn Wembley werth tua £90 miliwn i’r clwb sy’n ennill. Mae hynny’n golygu £1 miliwn am bob munud o chwarae.

‘Y gêm fwyaf’

Yn ôl rheolwr Abertawe, Brendan Rodgers, rownd derfynol y gêmau ail gyfle yw’r gêm fwya’ yn ei hanes yntau ac fe fydd cefnogwyr yn teithio o’i bentre’ genedigol yng Ngogledd Iwerddon hefyd.

Y llynedd, fe gyrhaeddodd Caerdydd yr un rownd derfynol, cyn colli i Blackpool a does yr un tîm o Gymru wedi chwarae yn yr Uwch Gynghrair ei hun.

Abertawe oedd y diwetha’ i chwarae ar y lefel ucha’, yn yr hen Adran Gyntaf rhwng 1981 ac 1983.