Mae’r heddlu’n ymchwilio i ddau achos o fwrgleriaeth a ddigwyddodd o fewn deng munud i’w gilydd yng Nghaerdydd neithiwr.

 Fe alwodd dyn ifanc yn nhŷ hen wraig 93 yn Ffordd Pantbach gerllaw ardal Eglwys Newydd yng ngogledd y ddinas tua 7 o’r gloch gan honni ei fod yn gweithio ar gyflenwadau dŵr. Fe adawodd gyda gemwaith a’i phwrs.

 Ddeng munud yn ddiweddarach fe fu ail ddigwyddiad yng Nghlas Illtyd gerllaw, lle galwodd dau ddyn mewn tŷ yn gofyn am arian i lanhau ffenestri. Sylwodd y perchennog oedrannus yn ddiweddarach eu bod nhw wedi dwyn ei waled.

 Mae’r heddlu’n disgrifio’r ddau ddyn fel dynion gwyn, yn eu 20au, ac yn gwisgo dillad tywyll. Roedd un yn 6 throedfedd o daldra, a’r llall yn fyrrach, tua 5 troedfedd 6 modfedd i 5 troedfedd 8 modfedd.

Dau ddigwyddiad cysylltiedig 

Meddai’r Ditectif Sarjant Chris Cullen o CID Caerdydd: “Roedden ni’n awyddus i roi gwybod i bobl am y digwyddiadau yma cyn gynted ag oedd modd rhag ofn y bydd y dynion yma’n galw mewn tai eraill yn yr ardal.

 “Credwn fod y ddau ddigwyddiad yn gysylltiedig gan eu bod mor agos o ran amser a lleoliad.

 “Apeliwn ar i unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â ni ar 029 2052 8013 neu Taclo’r Tacle ar 0800 555 111.”