Alun ffred Jones - 'angen torchi llewys'
Mae peryg y bydd y Cynulliad newydd yn torri am wyliau’r haf heb ddechrau ar ei waith yn iawn, meddai un o ACau Plaid Cymru.

Mae Alun Ffred Jones wedi sgrifennu at Lywydd y Cynulliad yn gofyn am weithredu i sefydlu pwyllgorau “mor fuan ag sy’n bosib”.

Mae’n dweud bod peryg i bobol Cymru feddwl bod y Cynulliad yn llaesu dwylo ac nad yw eu gwaith yn wirioneddol bwysig.

Allweddol

Ac yntau’n Gadeirydd ar Grŵp ACau Plaid Cymru, mae’n dweud bod y pwyllgorau’n rhan allweddol o waith y corff, ond does dim wedi’i wneud eto i’w penodi.

Fe fydd gwaith y pwyllgorau’n bwysicach fyth yn ystod y cyfnod nesa’ – nhw fydd yn craffu ar y deddfau sy’n cael eu creu yno.

Mae’r Cynulliad ar wyliau hanner-tymor-ysgol ar hyn o bryd.

Sylwadau Alun Ffred Jones

“Mae’r gwaith sy’n cael ei wneud gan bwyllgorau’r Cynulliad yn angenrheidiol i’n democratiaeth yma yng Nghymru.

“Mae gan holl aelodau’r Cynulliad gyfraniad enfawr i’w wneud drwy’r ymchwiliadau ac wrth gwrs drwy graffu’n drylwyr ar waith Llywodraeth Cymru.  Yn sicr iawn, mae’n rhaid i’r gwaith yma ddechrau mor fuan â sy’n bosib.”