Fe gyhoeddodd Heddlu De Cymru fod 44 o bobol wedi eu harestio yng Nghaerdydd yn ystod cyrch 24 awr.

Ymhlith y troseddau, roedd yna achosion o dwyll a thrin arian anonest, ac eraill yn ymwneud â meddu math o gyllell, torri i mewn, dwyn ac ymosod.

Fe gafodd un dyn ei arestio ym maes awyr Gatwick a’i gymryd i’r ddalfa i’w holi am droseddau cyffuriau.

Y bwriad oedd canolbwyntio ar dorri i mewn a throseddau treisgar gyda’r heddlu’n gweithredu rhwng hanner nos nos Fercher a hanner nos nos Iau.

Mae’r cyrchoedd yn digwydd unwaith y mis, meddai’r heddlu, gyda’r bwriad o roi teimlad o sicrwydd i bobol y ddinas a mynd â throseddwyr oddi ar y strydoedd.