Darren Millar, gweinidog iechyd yr wrthblaid
Mae cynnydd anferthol yn y nifer o gleifion yng Nghymru sy’n disgwyl dros 36 wythnos am driniaeth orthopaedig o gymharu â’r llynedd.

Yn ôl y ffigurau diweddaraf, roedd 4,466 o gleifion wedi gorfod aros dros 36 wythnos yn niwedd mis Mawrth o gymharu â dim ond 11 ychydig dros flwyddyn ynghynt.

Cleifion orthopaedig bellach yw’r mwyafrif o’r cyfanswm o 5,207 sydd sydd bod ar restrau aros y Gwasanaeth Iechyd am gyfnodau hirach nag amserau targed Llywodraeth Cymru.

O fewn Bwrdd Iechyd Lleol Caerdydd a’r Fro y mae’r sefyllfa waethaf, gyda 3,106 o gleifion yn disgwyl dros 36 wythnos. Yr un yw tynged 991 o gleifion Bwrdd Iechyd Lleol Betsi Cadwaladr hefyd.

‘Dychrynllyd’

Mae’r ffigurau diweddaraf wedi cael eu condemnio gan Weinidog Iechyd yr Wrthblaid, Darren Millar AC.

“Mae’r cynnydd dychrynllyd yma’n dangos yn glir fod problem ddifrifol gydag amserau aros orthopaedig,” meddai.

“Mae cynnydd o 40,500 y cant y tu hwnt i amgyffred rhywun. Mae’n rhaid fod rheswm ac mae angen inni ddarganod beth sydd wedi digwydd. 

“Mae’r fframwaith blynyddol yn gwbl glir, os nad yw claf wedi cael ei weld o fewn 26 wythnos, rhaid iddyn nhw gael eu gweld o fewn 36.

“Mae angen inni weld strategaeth eglur sy’n anelu at fynd i’r afael â’r broblem.”