Theodore Huckle (o wefan ei siambrau Civitas)
Arbenigwr ar gyfraith iawndal fydd yn arwain ochr gyfreithiol Llywodraeth Cymru wrth i’r Cynulliad gael hawl llawn i wneud ei deddfau ei hunan.

Fe gyhoeddodd y Prif Weinidog, Carwyn Jones, ei fod yn penodi’r bargyfreithiwr, Theodore Huckle, yn Ddarpar Gwnsel Cyffredinol i’r Llywodraeth.

Fe gafodd ei eni ym Mlaenafon yn Nhorfaen a’i alw i’r bar yn 1985. Mae wedi body n gweithio o siambrau Civitas yng Nghaerdydd gan arbenigo ar achosion yn ymwneud ag anafiadau personol.

Fe gafodd ei wneud yn QC eleni.

Fe fydd Theodore Huckle yn dilyn y gwleidydd John Griffiths sydd bellach wedi ei benodi’n Weinidog Amgylchedd.

‘Anrhydedd’

“Mae’n anrhydedd i gael fy mhenodi’n Ddarpar Gwnsel Cyffredinol,” meddai Theodore Huckle. “Yn arbennig mewn cyfnod mor gyffrous i Gymru pan fydd y Cynulliad yn defnyddio’i grymoedd newydd i wneud deddfau am y tro cynta’.”

Yn ogystal â rhoi barn ar faterion cyfraith sy’n codi o fewn y Llywodraeth, y Cwnsel Cyffredinol hefyd sy’n cynrychioli barn y Llywodraeth mewn materion cyfreithiol allanol.