Lesley Griffiths yw Gweinidog Iechyd Cymru
Mae Gweinidog Iechyd Cymru wedi cydnabod pwysigrwydd y Gymraeg ym maes gofal iechyd heddiw yn Llandudno.

Roedd Lesley Griffiths yn annerch cynhadledd ‘Y Gymraeg a Gofal Iechyd’, sef llwyfan i rannu Gwobrau’r Gymraeg Mewn Gofal Iechyd.

Pwrpas y gwobrau yw codi proffil gwasanaethau dwyieithog.

“Rwy’n hynod ymwybodol o ba mor bwysig yw gallu cael gofal iechyd a chymdeithasol drwy gyfrwng y Gymraeg i lawer o bobl,” meddai Lesley Griffiths, Aelod Cynulliad Wrecsam.

“Maen nhw’n teimlo’n llawer mwy cyfforddus yn trafod materion personol ac emosiynol yn eu mamiaith. Mae iaith yn ganolog i gynnig asesiadau clinigol effeithiol a thriniaethau diogel. Mewn meysydd fel gwasanaethau gofal meddwl, mae iaith yn fwy na ffordd o gyfathrebu, mae’n therapi.” 

Yn ogystal ag annerch y gynhadledd fe gyflwynodd y Gweinidog Iechyd nifer o wobrwyon i gydnabod ymdrechion i wella’r ddarpariaeth ddwyieithog o ofal iechyd i gleifion a’r cyhoedd.  

Y Gwobrwyon
Plant a phobl Ifanc – Gemau ac adnoddau dwyieithog Ysgolion Iach, Bwrdd Iechyd Cwm Taf ac Iechyd Cyhoeddus Cymru – Rhondda Cynon Taf.

Pobl Hŷn – Clinig Cof Ceredigion, Bwrdd Iechyd Hywel Dda.
Defnyddwyr Gwasanaeth Iechyd Meddwl – Gwasanaethau Gofal Sylfaenol Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc a Gwasanaeth Nyrs Ysgol – Amanada Aldridge, Debbie Hewitt, Bethan Thomas – Bwrdd Iechyd Hywel Dda.

Pobl ag Anabledd Dysgu gan Gynnwys Therapi Iaith a Lleferydd – taflenni Gwybodaeth Cyffuriau, Gwasanaeth Anabledd Dysgu, Bwrdd Iechyd Hywel Dda.

Ymarfer Blaengar yn canolbwyntio ar elfennau Gofal Personol  – Tîm Caplaniaeth (Gogledd), Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan.
Dysgwr Cymraeg y Flwyddyn (am lai na 2 flynedd)  – Sharon Harford (Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan)
Dysgwr Cymraeg y Flwyddyn (am lai na 2 flynedd)  – Dr. Andy Summors (Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan)
Addysg a Hyfforddiant sy’n hybu gweithle dwyieithog  – Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd, Prifysgol Bangor a Prosiect Academi Cynhadledd Achos, Priysgol Morgannwg
Gwobr Twf – annog magu plant yn ddwyieithog  – Gosod Taflen wybodaeth Twf yn Llyfr Cofnod Iechyd personol y Plentyn, Sharon Llewellyn, Arweinydd Gweithredol y Rhwydwaith Cymunedol a Sara Morgan Bydwraig Arweiniol Cynorthwyol, Canolfan Geni, Ysbyty Castell nedd Port Talbot, Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg.

Ymarfer Blaengar mewn gofal sylfaenol sy’n ymateb I anghenion cleifion an wasanaeth dwyieithog – Tîm Ymateb Acíwt Ceredigion, Bwrdd Iechyd Hywel Dda.
Tîm o Uwch reolwyr sy’n hyrwyddo creu sefydliad dwyieithog – Adnoddau dwyieithog ac offeryn cofrestru ar-lein ar dudalen Sharepoint Uned yr Iaith Gymraeg, Bwrdd Iechyd Cwm Taf.