David Cameron
 Ddydd Sul bydd Llywydd Eisteddfod Ryngwladol Llangollen Terry Waite CBE a David Cameron yn talu teyrnged i 124,000 o heddychwyr y Cenhedloedd Unedig mewn gwahanol wledydd ar draws y byd. 

 Mae’r Diwrnod Rhyngwladol Heddychwyr y Cenhedloedd Unedig yn deyrnged i ddynion a merched sy’n cyfrannu at wasanaeth gweithredu heddychwyr y Cenhedloedd Unedig.

  “Y mae’n holl bwysig ein bod yn cydnabod gwaith yr holl ddynion a merched sydd wedi gwasanaethu fel heddychwyr Cenhedloedd Unedig ar draws y byd.  Dyliwn hefyd anrhydeddu’r rhai sy’ wedi colli eu bywydau dros yr achos,” meddai David Cameron, y Prif Weinidog.

 “Hoffwn gydnabod gwaith Eisteddfod Ryngwladol Gerddorol Llangollen dros heddwch y byd, wrth iddynt ddenu pobl ifanc o gefndiroedd cymdeithasol, crefyddol ac ethnig gwahanol ar draws y byd  i rannu a mynegi eu hunan drwy gerddoriaeth.”

 Pen-blwydd

 Ddydd Sul yw dyddiad pen-blwydd ymgyrch gyntaf heddychwyr y Cenhedloedd Unedig, sef ‘United Nations Truce Supervision Organization’ (UNTSO).

 Fe ddechreuodd yr heddychwyr weithredu ym Mhalesteina yn 1948. Unarddeg mis ar ôl yr Eisteddfod Ryngwladol Gerddorol gynta’ yn Llangollen, a gafodd ei chynnal ym mis Mehefin 1947.

 Fe wnaeth Terry Waite dreulio pum mlynedd yn gaeth yn Lebanon, a chael ei  ryddhau ugain mlynedd yn ôl.

 “Y neges heddwch yw neges bennaf yr Eisteddfod, ac mae’r rhai sy’n cyfrannu yn datblygu cyfeillgarwch ac ennill dealltwriaeth newydd o’r rhai a fu eisoes yn cael eu gweld fel bygythiad,” meddai Terry Waite.

 “Mae’r gwaith dros heddwch yn ein cyfnod ni yn ddiddiwedd ac yn ystod wythnos yr Eisteddfod, rydym ni wedi cael ein gwahodd i ail ymroi ein hunain i weithio dros heddwch ym mywydau ein gilydd a gweddill y byd o’n cwmpas,” ychwanegodd.

 Fe gaiff Eisteddfod Llangollen ei chynnal eleni am y 65ed tro  – o’r 4ydd -10fed Gorffennaf 2011.