Nant Gwrtheyrn
Mae’r gwaith o adnewyddu hen bentre’ chwarel Nant Gwrtheyrn wedi ennill gwobr Prosiect y Flwyddyn y Sefydliad Brenhinol ar gyfer Syrfewyr Siartredig Cymru (RICS).

 Ac yn ôl rheolwr y prosiect fe gafodd y mwyafrif llethol o’r gwaith ei wneud gan gwmnïau o Gymru.

 Fe aeth ypentref a adeiladwyd ar gyfer teuluoedd gweithwyr chwarel ym Mhen Llŷn, yn adfail pan gaeodd y chwareli lleol yn y 1940au. Ond, erbyn hyn, mae’r pentref wedi ei droi yn lety gwyliau, cynadledda, gwledda a chyfleusterau addysg.

 Y prosiect

 Dros y bedair mlynedd ddiwetha’ mae 24 bwthyn gwreiddiol wedi eu hadnewyddu i ddarparu llety a chyfleusterau cynadledda, ac mae tŷ wedi ei neilltuo i ddangos bywyd teulu yn y chwarel ym 1910. Hefyd, mae arddangosfeydd yn cael eu cynnal yn yr hen gapel a’r caffi newydd sy’n cyfeirio at hanes yr ardal.

 “Rydym wrth ein boddau ein bod wedi ennill gwobr prosiect y flwyddyn RICS Cymru. Rydym wedi bod yn gweithio ar y prosiect ers pedair blynedd ac mae wedi gweddnewid y ganolfan a’i rôl yn y gymuned, “ meddai Jim O’Rourke, rheolwr prosiect gydag Ymddiriedolaeth Nant Gwrtheyrn.

 ‘Cwmnïau yng Nghymru’

 “Mae 97% o wariant y prosiect wedi mynd i gwmnïau yng Nghymru, a hoffem yn arbennig dalu teyrnged i’r tîm dylunio yn James Jenkins Thomas a’r contractwyr adeiladu RL Davies & Sons am eu cyfraniadau gwerthfawr,”  ychwanegodd Jim O’Rourke.

 Fe gafodd gwobr Prosiect y Flwyddyn 2011 ei gyflwyno i dîm Nant Gwrtheyrn yng Ngwobrau RICS Cymru yng Ngwesty’r Copthorne yng Nghroes Cwrlwys, Caerdydd gan Alex Glanville, Corff Cynrychiadol yr Eglwys yng Nghymru.

 Mae’r prosiect wedi derbyn cymorth grant gan Gronfa Datblygu Ranbarthol Ewrop, grantiau gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Dreftadaeth y Loteri.