Mae tri tocyn ar gyfer gêm fawr Abertawe yn Wembley wedi eu dwyn o dŷ yn y ddinas.
Mae’r Heddlu wedi cysylltu gyda staff yn y Stadiwm Liberty i drefnu bod y perchnogion yn cael tocynnau newydd.
Cafodd y tocynnau gwreiddiol eu dwyn o dŷ yn Gwili Terrace yn ardal Mayhill ddydd Mawrth.
Mae’r Heddlu yn gofyn am wybodaeth ynghylch y tocynnau sydd wedi eu dwyn, ac erbyn hyn maen nhw’n ddiwerth gan na fydd modd eu defnyddio i fynd fewn i Wembley i wylio’r ornest rhwng Abertawe a Reading ddydd Llun.
Mae’r tocynnau ar gyfer seddi ym mloc 506, rhes 5, seddi rhif 179, 180 a 181 yn Wembley.
Mi ddylai unrhyw un gyda gwybodaeth am y lladrad ffonio CID Abertawe ar 01792 450618 neu Taclo’r Taclau yn ddi-enw ar 0800 555 111.