John Cooper (Llun Heddlu Dyfed Powys)
Dyw geiriau ddim yn gallu egluro cymaint o effaith a gafodd gweithredoedd John Cooper, meddai plant y ddau ymwelydd o Swydd Rhydychen a gafodd eu llofruddio ganddo.

Ar ôl i’r gwas fferm 66 oed gael ei garcharu am oes ddoe am ddwy lofruddiaeth ddwbl ac ymsodiadau eraill, fe ddarllenodd merch Peter a Gwenda Dixon ddatganiad y tu allan i’r llys yn Abertawe.

Hyd yn oed ddau ddegawd ar ôl y llofruddiaeth yn 1989, roedd absenoldeb eu tad a’u mam yn dal i fod yn boenus, meddai.

Yn y cyfamser, mae Heddlu Dyfed Powys wedi dweud y byddan nhw’n edrych eto ar farwolaethau amheus eraill yn ardal Sir Benfro rhag ofn bod cysylltiad rhyngddyn nhw a Cooper.

Pam?

Ac mae’r holi wedi dechrau am yr hyn oedd wedi gwneud i’r lleidr o Dreletert droi’n llofrudd ciaidd.

Yyn ôl yr heddlu, roedd yn dangos nodweddion seicopath, yn gallu ymddangos yn normal, heb ddangos unrhyw ofid na phryder am ei droseddau dychrynllyd.

Mae yna ddyfalu hefyd am y ffordd yr oedd wedi gwastraffu enillion o £90,000 o wobr bapur newydd yn 1978.

Fe fyddai hynny werth cannoedd o filoedd heddiw ac roedd wedi prynu a methu gyda dwy fferm ar ôl hynny.

Gwylio

Fe ddaeth yn glir hefyd fod Heddlu Dyfed Powys wedi bod yn gwylio Cooper yn fanwl ar ôl iddo gael ei ryddhau o’r carchar am gyfres o ladradau yn 2008.

Erbyn hynny, roedden nhw’n sicr mai ef oedd y llofrudd dwbl, ond roedd arnyn nhw angen un darn allweddol o dystiolaeth. Maneg a gwyddoniaeth fforensig oedd yr ateb i hynny.