Glen Freaney
Fe gafwyd mam yn ddieuog o lofruddio’i mab awtistig ar ôl achos llys llawn emosiwn.

Fe benderfynodd rheithgor yn Llys y Goron Caerdydd o blaid Yvonne Fearney, 49 oed, a oedd wedi gwadu’r cyhuddiad ond wedi pledio’n euog i ddynladdiad pan nad oedd yn ei llawn bwyll.

Cafodd y broses o’i dedfrydu hi ei gohirio ran Fehefin 10 ar ôl y penderfyniad unfrydol gan y saith dyn a’r pum dynes.

Roedd Yvonne Freaney wedi cyfadde’ i ladd ei mab Glen, 11 oed, gan ddweud ei bod yn poeni na fyddai neb arall yn edrych ar ei ôl.

Ceisio’i lladd ei hun

Fe ddywedodd wrth yr heddlu ei bod wedi ceisio ei lladd ei hun hefyd ac fe glywodd y llys ei bod wedi cael amser caled yn ei phriodas.

Fe ddigwyddodd y lladd mewn gwesty ger Maes Awyr Caerdydd ym mis Mai y llynedd.

Roedd yr erlyniad wedi gwrthod derbyn ei bod yn diodde’ o salwch meddwl.