Gwenda Dixon - un o'r ddau a laddwyd ger yr Aber Bach
Mae ardal glan môr ger Hwlffordd yn teimlo “rhyddhad” ar ôl i lofrudd gael ei garcharu am oes.

Ac mae pennaeth heddlu yn dweud nad yw’n edifar er eu bod wedi methu ag erlyn y llofrudd fwy na degawd yn ôl er eu bod nhw’n ei amau.

Roedd lladd dau ymwelydd wedi bod yn gysgod tros yr ardal am chwarter canrif ers i’r llofruddiaethau ddigwydd, meddai cynghorydd lleol.

“Mae’n newyddion da ei fod wedi’i gael yn euog,” meddai’r cynghorydd Peter John Morgan sy’n cynrychioli ardaloedd Aberllydan a’r Aber Bach yn Sir Benfro.

“Mae hyn wedi bod yn mynd ymlaen ers dros ugain mlynedd. R’yn ni’n ddiolchgar am y ddedfryd ac fe allwn ni symud ymlaen nawr gobeithio a chau’r bennod hon yn hanes yr ardal.”

Pob math o straeon

Roedd yna bob math o sïon wedi bod pan gafodd Gwenda a Peter Dixon o Swydd Rhydychen eu saethu yn eu pennau.

“Oedd yr achosion yn rhywbeth i’w wneud â smyglo cyffuriau neu’n  rhywbeth  i’w wneud gyda’r IRA?” meddai’r cynghorydd. “Ond, person lleol oedd e.”

Fe fydd y gwas ffarm, John Cooper, 66 o Dreletert, orchymyn i aros yn y carchar am weddill ei oes ar ôl ei gael yn euog o lofruddio’r Dixons a brawd a chwaer leol mewn ymosodiad arall.

‘Pobol yn nerfus’

“Mae’n Gymdeithas fechan iawn yma,” meddai’r Cynghorydd. “Does gyda ni ddim troseddu yma mewn gwirionedd – mae’n lle diogel. Mae’r Aber Bach yn un o drysorau Sir Benfro.

“Roedd pobol yn nerfus… Ond, dw i’n gwybod yr hoffen ni ddiolch yn fawr i Heddlu Dyfed Powys am yr holl amser y maen nhw wedi’i roi i’r achos.

“Gobeithio y medrwn ni gau’r bennod hon nawr.”

Rhaglen arbennig am yr achos

Heno, fe fydd rhaglen arbennig o’r Byd ar Bedwar ar S4C yn edrych ar hanes yr achos ac fe fydd pennaeth y CID adeg yr ymchwiliad yn dweud eu bod yn amau ers blynyddoedd mai John Cooper oedd yn gyfrifol.

Fe fydd Jeff Thomas yn dweud nad oedd yn edifar ynglŷn â’r ymchwiliad, er eu bod nhw wedi methu cael digon o brawf i ddod ag achos yn niwedd yr 1990au.

Y dystiolaeth a gafodd ei chasglu bryd hynny oedd yn gyfrifol am lwyddiant yr achos eleni, meddai – roedd y barnwr hefyd wedi dweud bod technoleg fforensig newydd yn allweddol.