Traeth Aberdyfi - wedi methu
Mae Dŵr Cymru wedi dweud heddiw eu bod nhw’n “cefnogi” adroddiad Cymdeithas Cadwraeth y Môr – yr MCS – ar ôl i 11 o draethau adnabyddus fethu â chyrraedd safonau sylfaenol o ran dŵr ymdrochi.
Roedd yna gwymp hefyd yn nifer y traethau o Gymru sydd wedi eu cynnwys yn y Good Beach Guide ac roedd peth o’r bai’n cael ei roi ar garthion yn mynd i’r môr.
Yn y dyfodol, fe allai’r problemau fod yn waeth gan fod safonau Ewropeaidd yn cael eu codi erbyn 2015 ac fe fydd ymdrochwyr yn cael eu rhybuddio i beidio â mynd i’r dŵr ar draethau sy’n methu.
Ond, yn ôl Dŵr Cymru, maen nhw’n gweithio ar gyfres o gynlluniau i wella pethau gydag Asiantaeth yr Amgylchedd, awdurdodau lleol a grwpiau amgylcheddol eraill.
‘Y traethau’n iawn’
Er bod cynnydd eleni yn yr holl draethau Prydeinig sy’n cael eu rhestru yn y Good Beach Guide, roedd cyfanswm o 45 wedi methu â chyrraedd y safonau sylfaenol trwy wledydd Prydain.
Mae Cyngor Gwynedd – lle mae tri thraeth wedi methu – yn pwysleisio mai ansawdd y dŵr ymdrochi yw’r broblem, nid y traethau.
“Er ein bod yn siomedig nad oedd dŵr ymdrochi ar nifer fechan o draethau yn cyrraedd y safon ddisgwyliedig rydym wrth ein bodd bod Gwynedd wedi derbyn nifer sylweddol o Wobrau Traeth yn 2011,” meddai llefarydd.
Roedd D ŵr Cymru hefyd yn gwneud pwynt tebyg ac yn dweud eu bod yn ceisio gwella ansawdd y dŵr hefyd.
Sylwadau Dŵr Cymru
“Yn gynharach y mis hwn, cyhoeddwyd fod gan Gymru, unwaith eto tua thrydydd o’r holl Faneri Glas a ddyfarnwyd ledled y Deyrnas Unedig – sy’n gamp ffantastig ac yn bwysig iawn ar gyfer y diwydiant twristiaeth Cymru,” meddai llefarydd ar ran Dwr Cymru.
“Mae sicrhau bod ein dyfroedd ymdrochi yn cyrraedd y safonau uchel a osodwyd gan Reoliadau Dŵr Ymdrochi’r Comisiwn Ewropeaidd yn flaenoriaeth allweddol i ni yn Dwr Cymru.
“Yma yng Nghymru mae gennym amgylchedd gwych y mae’n rhaid i ni barhau i’w warchod a’i wella ymhellach.”
Y traethau
Dyma’r 11 traeth sydd wedi methu â chyrraedd y safonau sylfaenol o ran glendid y dŵr.
Gwynedd
Traeth Aberdaron
Traeth Llanbedrog
Traeth Aberdyfi
Ceredigion
Ynyslas – Northen Groyne (sea) Ceredigion
Ynyslas – Twyni Bach
Llanon (llithrfa)
Llanina
Cei Newydd – Traeth y Gogledd
Sir Benfro
Traeth Pwllgwaelod
Bro Morgannwg
Gorllewin Ogwr
Y Barri Watch House Bay