Gwydraid o win coch (Aka CCA 2.5)
Fe fydd ardal y chwareli’n ymuno gyda Bordeaux a Burgundy ymhlith rhanbarthau gwin y byd yr wythnos nesa’.

Mae gwinllan newydd yn Nyffryn Nantlle’n lansio’u gwin cynta’ yn ystod Wythnos Win Cymru.

Mae un botel o’r gwin coch eisoes wedi cael ei gwerthu am £45 mewn arwerthiant at elusen ac, yn ôl y blaswyr, mae’r argoelion yn dda.

Mae’r teulu Hughes wedi plannu amrywiaeth o winwydd ar wyth erw o lethrau deheuol fferm Pant Du ger Penygroes, ac enw’r fferm yw enw’r gwin newydd hefyd.

Dim ond 260 o boteli fydd yn cael eu cynhyrchu yn y flwyddyn gynta’ ond mae yna botensial i lenwi 12,000 o boteli bob blwyddyn, a hwnnw’n win sy’n dod o winwydd Rondo pedair oed.

Mae gwin Cymru yn tyfu mewn poblogrwydd ac i ddathlu Wythnos Gwin Cymru bydd nifer o winllannoedd ar draws Cymru ar agor i’r cyhoedd ac yn cynnal digwyddiadau arbennig.

Yr wythnos

Nod yr wythnos yw tynnu sylw at y cynnydd mewn gwinllannoedd ar draws Cymru – yn y gorffennol, dim ond yn y de yr oedd gwinllannoedd, ond maen nhw bellach yn lledu.

“O gymharu gyda rhai ardaloedd traddodiadol tyfu gwin, efallai bod Cymru yn gymharol newydd i’r maes. Ond, o ran ansawdd a photensial mae gwin Cymru yn sicr yn gwneud enw iddo’i hunan gartref a thramor,” meddai Alun Davies, Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Bwyd, Pysgodfeydd a Rhaglenni Ewropeaidd Llywodraeth Cymru.