Peter Dixon, un o'r ddau ymwelydd a gafodd eu saethu gan John Co
Fe fydd gwas fferm o Sir Benfro’n gorfod aros yn y carchar am weddill ei oes ar ôl ei gael yn euog o bedair llofruddiaeth a rhes o droseddau eraill.

Fe gafodd John Cooper, 66 o Dretletert, ddedfryd oes am ddwy lofruddiaeth ddwbl yn Sir Benfro yn ôl yn yr 1980au.

Roedd wedi lladd brawd a chwaer leol, Richard a Helen Thomas, a phâr a oedd yn cerdded Llwybr Arfordir Sir Benfro, Peter a Gwenda Dixon.

Roedd dedfryd y rheithgor yn unfrydol ac fe gawson nhw’r pensiynwr hefyd yn euog o dreisio merch ysgol, o ymosod ar un arall ac o gyflawni pum lladrad yn 1996.

Torri ar draws

Wrth gael ei ddedfrydu, roedd John Cooper yn torri ar draws y barnwr ac fe waeddodd aelodau o’i deulu y bydden nhw’n parhau i’w gefnogi.

Ond fe ddywedodd y barnwr, John Griffith Williams, bod John Cooper yn ddyn peryglus a oedd wedi cynllunio’i droseddau’n ofalus.

Oni bai am wyddoniaeth fforensig, meddai, efallai na fyddai’r llofrudd wedi cael ei ddal fyth.