Cheryl Gillan
Mae Ysgrifennydd Cymru wedi ymyrryd yn y ddadl rhwng pobol ym Mhowys a Llywodraeth Cymru tros ynni gwynt.

Fe ddylai’r Llywodraeth wrando ar farn y mwyn na 1,000 o brotestwyr a ddaeth i Gaerdydd ddydd Mawrth, meddai Cheryl Gillan.

Er hynny, mae wedi cefnogi’r egwyddor o ffermydd gwynt, gan ddweud bod ganddyn nhw ran i’w chwarae yng Nghymru.

Ond, meddai wrth gynhadledd ynni gwyrdd yng Nghaerdydd, ddylai gwleidyddion na datblygwyr “ddim sathru ar farn leol.

“Fe ddylen nhw weithio gyda chymunedau i sicrhau bod yna gefnogaeth leol i gynlluniau a bod y rheiny’n cydweddu â’r amgylchedd o’u cwmpas.”

Y cefndir

Roedd pobol o Sir Drefaldwyn yn protestio’n erbyn cynlluniau i godi rhagor o ffermydd gwynt a chodi is-orsaf drydan a rhes o beilonau yn ardal y Trallwng.

Mae hynny’n digwydd o dan ganllawiau cynllunio Llywodraeth Cymru TAN 8 a chyfrifoldeb y Cynulliad yw’r mater – adeg yr etholiad, fe wnaeth y Prif Weinidog Carwyn Jones yn glir y bydd yn cymryd cyfrifoldeb personol am y maes.

Fe enillodd y Ceidwadwyr, plaid Cheryl Gillan, sedd Maldwyn yn yr etholiad, yn rhannol oherwydd gwrthwynebiad yr ymgeisydd i’r cynlluniau.