Glen Freaney
Mae’r rheithgor yn achos mam sydd wedi’i chyhuddo o lofruddio’i mab awtistig wedi ail ddechrau ystyried yr achos heddiw.
Mae Yvonne Freaney, 49, yn gwadu llofruddio ei mab 11 oed Glen, ond wedi cyfaddef i ddynladdiad ar y sail nad oedd yn ei llawn bwyll.
Fe ddywedodd y fam wrth yr heddlu ei bod wedi lladd ei mab mewn ystafell westy ger maes awyr Caerdydd ym mis Mai y llynedd oherwydd ei bod yn ofni na fyddai neb arall yn edrych ar ei ôl.
Mae Yvonne Freaney yn dweud ei bod yn dioddef o anhwylder meddwl pan laddodd Glen ond mae’r erlyniad wedi gwrthod hynny.
Ceisio’ lladd ei hunan
Dyw’r fam ddim wedi rhoi tystiolaeth, ond fe glywodd y llys ei bod wedi dweud wrth yr heddlu iddi hithau geisio’i lladd ei hunan.
“Dw i wedi trio ymuno ag ef,” meddai. “Mae yn y nefoedd nawr.”
Roedd y fam yn dweud ei bod wedi’i “dagu” ac “na fyddai’n awtistig” yn y nefoedd ac y byddai’n “hapus” yno.
Fe glywodd y rheithgor bod Yvonne Freaney wedi dioddef hanes hir o gam-drin domestig a hunan-niweidio a’i bod yn byw mewn awyrgylch “budr” ym Mhenarth, Bro Morgannwg.