Llun cyhoeddusrwydd i'r GBG
Mae 11 o draethau adnabyddus yng Nghymru wedi methu â chyrraedd y safonau sylfaenol o ran glendid y dŵr. Ac mae llai wedi pasio.

Ac mae’r mudiad sy’n ymgyrchu tros draethau da wedi rhybuddio y gallai’r ardaloedd hynny ddiodde’ trafferthion economaidd yn y dyfodol.

Er bod cynnydd eleni yn yr holl draethau Prydeinig sy’n cael eu rhestru yn y Good Beach Guide, roedd cyfanswm o 45 wedi methu â chyrraedd y safonau sylfaenol.

Yn ôl Cymdeithas Cadwraeth y Môr – yr MCS – sydd wedi cyhoeddi’r rhestr newydd heddiw, fe allai methu olygu problemau mawr.

Er hynny, mae cyfanswm y traethau yn y Deyrnas Unedig ar y rhestr wedi cynyddu i 461 y trydydd cyfanswm uchaf yn ei hanes.

Safonau newydd

Erbyn 2015, fe fydd safonau Ewropeaidd llawer mwy llym yn eu lle ac fe fydd traethau’n cael eu cosbi os byddan nhw’n methu â’u cyrraedd.

Fe fydd arwyddion yn cael eu gosod ar y traethau yn rhybuddio pobol rhag ymdrochi yno ac fe allai hynny wneud drwg mawr i dwristiaeth, meddai’r MCS.

Un o bryderon mawr y gymdeithas yw bod llawer o garthion yn parhau i gael eu gollwng i’r môr, yn aml trwy bibellau gorlifo.