Llun o wefan yr NSPCC
Roedd yna bron 1,200 o droseddau rhyw yn erbyn plant yng Nghymru yn ystod y flwyddyn ddiwetha’, yn ôl ffigurau swyddogol.

Mae hynny’n cyfateb i fwy na thair o droseddau pob dydd.

Ac mae’r elusen warchod plant, yr NSPCC, wedi galw am ragor o waith i atal pobol ifanc rhag cyflawni troseddau o’r fath.

Roedd bron chwarter y troseddwyr trwy Gymru a Lloegr o dan 18 oed ac, yn ôl yr elusen, mae angen gweithredu i atal ymddygiad “niweidiol” pobol ifanc.

Roedd yna 23,390 o droseddau rhyw yn erbyn plant a phobol ifanc trwy Gymru a Lloegr, a hynny’n gynnydd o 8% ar y flwyddyn gynt.

Y manylion

Dyma nifer y troseddau fesul heddlu Cymreig:

Dyfed-Powys     255

Gwent                  273

Gogledd               304

De Cymru            366

Mae yna ddadansoddiad hefyd o oedran y dioddefwyr ac roedd bron hanner rhwng 12 a 15, a bron chwarter yr un rhwng 5 ac 11 ac 16 ac 17.

Ond roedd mwy na 1,000 o’r troseddau – tua 4% – yn erbyn plant bach a oedd yn bedair oed neu lai.

Yr ymateb

Roedd y ffigurau newydd yn ddychrynllyd yn ôl llefarydd ar ran y Llywodraeth ond roedd yn pwysleisio bod nifer o  gamau’n cael eu cymryd i geisio atal troseddau rhyw yn erbyn plant.

“Mae’r cynnydd yn y troseddau rhywiol sydd wedi eu cofnodi’n erbyn plant yn bryder gwirioneddol ac mae’n rhaid i ni ddod o hyd i ffyrdd o helpu dioddefwyr a newid ymddygiad troseddwyr ifanc,” meddai llefarydd ar ran yr NSPCC.

“Mae mwy na 2,000 o’r rhai a gyhuddwyd yn yr achosion yma o dan 18 oed. Mae’n amlwg bod rhaid cael rhagor o wasanaethau sy’n mynd i’r afael ag ymddygiad niweidiol pobol ifanc, yn ogystal ag oedolion sy’n troseddu.”

Roedd yr elusen wedi cael gafael ar y ffigurau trwy gais rhyddid gwybodaeth.