Mae aelod o staff BBC Cymru wedi dweud wrth Golwg 360 ei fod yn pryderu y gallai toriadau’r gorfforaeth arwain at “golli gwasanaeth Radio Cymru fel yr ydyn ni’n ei nabod”.

Dywedodd y ffynhonnell nad oedd am gael ei enwi y byddai’r toriadau sy’n cael eu cynnig mewn dogfen fewnol yn “drasiedi cenedlaethol” i ddarlledu Cymraeg.

Byddai’r toriadau o 20% yn gyfystyr a £2 filiwn o bunnoedd i Radio Cymru, ac yn niweidiol iawn i wasanaeth “sydd eisoes yn bwydo o’r llaw i’r geg,” meddai.

Yr unig ateb fyddai “cwtogi oriau darlledu neu wneud rhaglenni yn deneuach, a methu darparu gwasanaeth arbenigol ar yr unig orsaf radio cenedlaethol sydd gennym ni yn y Gymraeg”.

Y ddogfen

Mae’r ddogfen yn trafod sut y gall BBC Cymru sicrhau toriadau o 20% i’w gwasanaethau, yn unol â’r targed ar draws holl wasanaethau’r BBC.

Ond dywedodd swyddog cenedlaethol Undeb Bectu, sydd wedi darllen y ddogfen, fod y BBC wedi methu â deall sefyllfa Cymru wrth gyflwyno eu gweledigaeth ar gyfer y toriadau.

“Dydi’r BBC ddim wedi rhoi digon o ystyriaeth i bwysigrwydd ieithyddol BBC Cymru wrth lunio’r toriadau hyn,” yn ôl David Donovan.

“Maen nhw wedi penderfynu cyflwyno toriadau o 20%,” meddai, “a hynny ar ôl pedair blynedd o doriadau eisoes.”

‘Dogfen gychwynnol’

Mewn cyfarfod byr rybudd â rhai o staff BBC Cymru ddoe, dywedodd rheolwyr mai “dogfen gychwynnol” oedd hi, ac y byddai’n rhaid i bob cynnig gael eu derbyn y ganolog.

Mae cyfarwyddwr BBC Cymru, Keith Jones, hefyd wedi e-bostio staff yn pwysleisio mai cychwyn “proses” yn unig yw’r ddogfen.

“Does dim disgwyl i benderfyniad gael ei wneud nes yn ddiweddarach eleni,” meddai.

Mae disgwyl cadarnhad ynglŷn â maint y toriadau erbyn diwedd y flwyddyn, ond does dim disgwyl iddynt gael eu rhoi ar waith nes 2017.

Poeni am S4C

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi gofyn i’r BBC ail-feddwl, ac i ail-ystyried y “camgymeriad” a wnaed gan reolwyr y BBC wrth gymryd cyfrifoldeb dros S4C.

“Gall y BBC gerdded i ffwrdd ac ail-feddwl ar S4C,” yn ôl Menna Machreth, llefarydd Cymdeithas yr Iaith ar ddarlledu.

Un o’r syniadau yn y ddogfen yw darlledu llai o’r Eisteddfod Genedlaethol a’r Sioe Fawr yn Llanelwedd, a fyddai’n golygu bod rhaid i S4C wario arian ar ffyrdd eraill o’u darlledu.

“Mae hyn yn codi cwestiynau am eu hymrwymiad i Gymru,” meddai Cymdeithas yr Iaith, sydd yn mynd i fod yn protestio yn erbyn y toriadau i S4C ar faes Eisteddfod yr Urdd Abertawe ddydd Mawrth nesaf.