Mae Golwg 360 ar ddeall fod pryder mawr o fewn Radio Cymru ynglŷn â thoriadau sylweddol i’r gwasanaeth.

Mae dogfen sy’n cynnig toriadau helaeth i wasanaethau Radio Cymru wedi ei dosbarthu o fewn BBC Cymru yn ystod y diwrnodau diwethaf.

Ddoe cynhaliwyd cyfarfodydd staff ym Mangor a Chaerdydd er mwyn trafod cynnwys y ddogfen, ac mae aelodau o staff y gorfforaeth wedi mynegi eu pryder drwy gyfrwng gwefan Twitter.

Mae’r ddogfen yn cynnig torri oriau darlledu wythnosol BBC Radio Cymru, a darlledu llai o ddigwyddiadau gan gynnwys yr Eisteddfod Genedlaethol a’r Sioe Frenhinol.

Mae’r ddogfen, a ysgogodd undebau i alw cyfarfod brys ddoe, wedi creu ansicrwydd mawr yn y BBC, gyda “phob math o sibrydion am ddyfodol Radio Cymru,” yn ôl un aelod o staff ar Twitter.

Dim digon o sylw i’r iaith

Heddiw dywedodd llefarydd ar ran undeb darlledu, sydd wedi gweld y ddogfen, wrth Golwg 360 y gallai’r toriadau “wneud niwed sylfaenol” i wasanaethau BBC Cymru.

Ychwanegodd David Donovan o undeb BECTU ei fod yn credu nad ydi’r BBC yn ganolog wedi “rhoi digon o ystyriaeth i bwysigrwydd ieithyddol gwasanaethau BBC Cymru”.

“Fydd yna ddim darlledu o’r Eisteddfod, dim darlledu o’r Sioe Frenhinol yn Llanelwedd. Mae’r ddogfen yn awgrymu toriadau helaeth ym mhob adran.”

Yn ôl y ffigyrau gwrando diweddaraf roedd 9,000 yn llai o bobl yn gwrando ar Radio Cymru bob wythnos yn ystod tri mis cynta’r flwyddyn hon, o gymharu gyda thri mis ola’ 2010.

Toriadau BBC Cymru

Mae cynllun toriadau’r BBC yn galw am uwch-reolwyr i gynnig cynllun toriadau i’w hadrannau o’r BBC er mwyn eu rhoi gerbron yr ymddiriedolaeth.

Mae’r toriadau wedi eu hysgogi gan yr angen i ariannu’r BBC World Service yn ogystal ag S4C, o goffrau’r drwydded deledu, sydd wedi ei rewi am dair blynedd.

Yn ôl y ddogfen, gallai’r cynnig hefyd effeithio ar ddarpariaeth newyddion a chwaraeon BBC Cymru, a chael gwared ar Week In, Week Out, ac elfen Gymreig y Politics Show.