Mr Urdd a Rapsgaliwn
Bydd Sain yn cyhoeddi cryno ddisg  cyntaf ‘rapiwr gorau’r byd!’ – Rapsgaliwn – i gyd-fynd ag Eisteddfod yr Urdd Abertawe’r wythnos nesaf.

Fe fydd Rapsgaliwn hefyd yn ymddangos yn yr Urdd yr wythnos nesaf, gan gyflwyno sioe ‘Rapio gyda Rapsgaliwn’ ar lwyfan pabell S4C am 2.30 y pnawn o ddydd Llun i ddydd Iau.

Dros y misoedd diwethaf, mae’r rapiwr wedi gorffen recordio ei albwm newydd, ffilmio fideo i hyrwyddo Eisteddfod yr Urdd Abertawe ac ymddangos ar ei raglen wythnosol ar Cyw.

Mae albwm newydd y rapiwr sydd yn y siopau nawr yn cynnwys 27 o ganeuon o’i gyfres deledu Rapsgaliwn.

Mae’r caneuon yn trafod sawl pwnc amrywiol – o esgidiau, i sbageti, a mwydod.

Arwyddgân y gyfres yw trac agoriadol y gryno ddisg sef ‘Fi di Rapsgaliwn – rapiwr gorau’r byd, mae popeth dwi’n ddweud yn odli o hyd!’

Mae’r gryno ddisg ar gael o wefan Sain am £9.99.