Llawdriniaeth
Mae’r gwasanaeth iechyd yng Nghymru yn wynebu toriadau ‘dyfnach’ nag unrhyw ran arall o Brydain, yn ôl adroddiad a gyhoeddwyd heddiw.

Mae’r adroddiad gan John Appleby, prif economegydd King’s Fund, yn dweud fod Cymru yn wynebu toriad o 11% mewn arian go iawn erbyn 2014.

Mae’r adroddiad yn rhybuddio na fydd arbedion effeithlonrwydd yn ddigon i wneud yn iawn am y toriadau anferth yng nghyllideb y gwasanaeth iechyd yng Nghymru.

Dywedodd Llywodraeth Cymru fod y gyllideb yn “mynd i fod yn her” ond eu bod nhw’n gwario rhagor ar iechyd nag unrhyw beth arall.

“Fe fyddwn ni’n parhau i fuddsoddi mwy na 40% o’n cyllideb mewn iechyd a gofal cymdeithasol.

“Rydyn ni’n cydnabod ei fod yn mynd i fod yn her, ond mae’n deg ac yn bosib o fewn cyfyngiadau’r arian yr ydyn ni wedi ei dderbyn gan Lywodraeth San Steffan.”

‘Blaenoriaethau’

Yn ôl yr adroddiad, sy’n ymddangos yn y British Medical Journal, fe fydd Lloegr yn osgoi’r gwaethaf o’r toriadau.

Mae Lloegr yn wynebu toriad o 0.9% mewn arian go iawn, a Gogledd Iwerddon yn wynebu toriad o 2.2%, erbyn 2015.

Bydd gwario ar y gwasanaeth iechyd yn disgyn 3.3% yn yr Alban erbyn diwedd y flwyddyn.

“Mae’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol wedi gwneud yn eithaf da o’i gymharu ag adrannau eraill yng Ngogledd Iwerddon a’r Alban,” meddai John Appleby.

“Ond yng Nghymru fe fydd cyllideb y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn syrthio 11% mewn arian go iawn dros gyfnod o bedair blynedd.”

Penderfynodd Llywodraeth Cymru beidio â gwarchod gwario ar iechyd, er bod y Ceidwadwyr Cymreig wedi eu hannog i wneud hynny.

Dywedodd llefarydd yr wrthblaid ar iechyd, Darren Millar, fod cleifion Cymru yn wynebu gwasanaeth iechyd sydd â llai o adnoddau nag unrhyw ran arall o Brydain.

“Rhaid i Lywodraeth Cymru ailystyried ei flaenoriaethau ac addo i amddiffyn y gyllideb iechyd.”