Kebab
Mae sefydliad wedi galw ar swyddogion iechyd i gael rhagor o bwerau, gan gynnwys y gallu i roi dirwyon yn y fan a’r lle.

Daw’r alwad gan Lais Defnyddwyr Cymru ar ôl i arolwg ddangos nad yw bron i hanner y siopau tecawê yng Nghymru yn bodloni safonau hylendid sylfaenol.

Mae’r data ar gyfer 2009/10 a gyhoeddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn dangos bod 47 y cant o siopau tecawê Cymru a chwarter y bwytai a’r caffis wedi cael sgôr isel.

Gan awdurdod lleol Rhondda Cynon Taf y mae’r broblem fwyaf, meddai Llais Defnyddwyr Cymru. Roedd 41.5 y cant o fusnesau yno’n cael sgôr isel.

Roedd 32% yn cael sgôr isel yng Nghasnewydd, 31% yn Abertawe, 27% yng Nghaerdydd, a 25% ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

Drwy Gymru gyfan, dim ond 80 y cant o lefydd bwyd sy’n cael sgôr derbyniol.

‘Gwastraffu amser’

“Mae’n warthus bod safon hylendid bwyd bron i hanner y siopau tecawê yng Nghymru ddim yn ddigon da,” meddai Maria Battle, Uwch Gyfarwyddwr Llais Defnyddwyr Cymru.

Dywedodd fod angen gwell cysondeb ar draws yr awdurdodau lleol ac addysgu perchnogion busnesau bwyd am bwysigrwydd diogelwch bwyd i ddefnyddwyr.

“Mae angen i swyddogion iechyd yr amgylchedd gael yr adnoddau priodol i’w galluogi i gymryd camau effeithiol yn erbyn busnesau sydd ddim yn cydymffurfio â’r gyfraith bwyd,” meddai.

“Mae’r broses o ddilyn camau gorfodi drwy’r llysoedd yn draul ar amser ac yn drafferthus.

“Mae hysbysiadau cosb benodedig yn cael eu defnyddio’n helaeth mewn meysydd gorfodi eraill, megis parcio, lle gall dirwy yn y fan a’r lle fod yn gosb sydyn ac effeithiol y gellir ei defnyddio heb orfod mynd drwy’r llysoedd.

“Y nod yw sefydlu trefn reoleiddio sy’n gymesur, yn lleihau beichiau diangen ar fusnesau ac yn sicrhau bod defnyddwyr yn cael eu diogelu i’r eithaf.

“Gwyddom fod Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn bwriadu creu sancsiynau sifil ar gyfer Swyddogion Iechyd yr Amgylchedd, ac rydym ni’n argymell i’r gwaith hwn gael ei flaenoriaethu.”