Safle Aberporth (llun o wefan Selex Galileo)
Mae cwmni sy’n darparu offer electroneg ar gyfer maes y gad wedi cadarnhau eu bod nhw’n bwriadu torri swyddi ym Mharc Aberporth.

Dywedodd cwmni Selex Galileo eu bod nhw’n bwriadu torri 150 o swyddi ledled Ynysoedd Prydain, gan gynnwys rhai yn Essex, Swydd Bedford a’r safle yng Ngheredigion.

Mae disgwyl mai tua wyth o’r swyddi rheini fydd yn cael eu colli yn Aberporth.

Mae Parc Aberporth yn barc technoleg gafodd ei greu ar gyn-orsaf Yr Awyrlu Brenhinol yno. Mae’r safle yn cael ei ddefnyddio ar gyefr profi awyrennau di-beilot.

Roedd rhaid torri swyddi cynhyrchu a peirianyddol wrth i lai o arian gael ei wario ar amddiffyn, meddai’r cwmni.

“Rydyn ni wedi gweithredu mewn modd priodol er mwyn mynd i’r afael â rhai o’r trafferthion oedd yn wynebu ein busnes a sicrhau ein bod ni’n parhau yn gystadleuol yn y dyfodol,” meddai Norman Bone, cyfarwyddwr Selex Galileo.