Dai Rees Jones
Mae cynghorwyr yng Ngwynedd wedi talu teyrnged i Dai Rees Jones, o Benrhosgarnedd, Bangor, a fu farw yn yr ysbyty ddoe yn dilyn salwch byr.

Roedd y Cynghorydd Dai Rees Jones yn gynghorydd sir ers 1978, ac yn cynrychioli ward Glyder y ddinas.

Roedd yn dod o Lanpumpsaint ger Caerfyrddin yn wreiddiol, ond fe aeth i Fangor yn fyfyriwr a gweithio yno yn ddarlithydd.

Dywedodd Arweinydd Grŵp Plaid Cymru yng Ngwynedd, Y Cynghorydd Dyfed Edwards ei fod yn “fraint fawr cydweithio â Dai ar hyd y blynyddoedd”.

“Rydym fel cydweithwyr a chyfeillion yn estyn ein cydymdeimlad dwysaf â theulu, ffrindiau a chymuned Pentir, Penrhosgarnedd o golli’r Cynghorydd Dai Rees Jones mor sydyn.

“Roedd angerdd a brwdfrydedd Dai dros y Blaid a thros ei ardal yn heintus.  Roedd yn Arweinydd Portffolio Gwasanaethau Cymdeithasol ar Gyngor Gwynedd ac roedd wrth ei fodd yn gweithio o fewn y maes.

“Bu’n Gynghorydd Cymuned am flynyddoedd lawer a chychwynnodd fel Cynghorydd Sir ym 1978.  Roedd Penrhosgarnedd yn agos iawn at ei galon ac roedd yn fab mabwysiedig go iawn i’r ardal.

“Roedd Dai yn ŵr bonheddig, yn gweld y gorau mewn pobl ac yn barod i roi o’i orau dros unrhyw anghyfiawnder.  Bydd bwlch mawr ar ei ôl ac rydym yn cydymdeimlo’n ddwys â Marian, ei wraig, Emyr, ei fab, a’r teulu cyfan yn eu profedigaeth.”

‘Gwreiddiau’

Dywedodd Aelod Cynulliad Arfon, Alun Ffred Jones, a oedd yn arweinydd Cyngor Gwynedd, ei fod yn “ffrind mawr i ni yn etholaeth Arfon, ac yn weithgar iawn dros ei ardal a thros ei annwyl Fangor”.

“Gyda thristwch mawr y clywsom am golli’r Cynghorydd Dai Rees Jones ac mae ein meddyliau heddiw gyda’i deulu a’i ffrindiau,” meddai.

“Er iddo’i fagu yn Llanpumsaint ger Caerfyrddin wedi cyfnod yn fyfyriwr ac yna’n ddarlithydd ym Mangor, yma y bwrodd ei wreiddiau.

“Roedd o efo fi yn canfasio yn yr etholiad diweddar ac i’w weld yn adnabod pawb yn ei ward. Roedd o’n un hwyliog a brwdfrydig dros bopeth a wnâi, ac yn weithgar yn yr eglwys ym Mhenrhosgarnedd yn ogystal ag ar y Cyngor.

“Roedd o’n barod iawn i chwerthin ac yn gwmni da. Mae ei farwolaeth yn golled enfawr i’w deulu a hefyd i Fangor ac i Wynedd.

“Bu’n fraint fawr i ni ei fabwysiadu i’r ardal ac rydym yn teimlo i’r byw dros ei deulu a’i ffrindiau yn ystod y cyfnod trist hwn.”